Rydym yn defnyddio briwsion

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn gweithredu. Drwy barhau i ddefnyddio’r wefan hon, rydych yn derbyn y byddwn yn gosod cwcis ar eich cyfrifiadur. Gweler ein polisi cwcis am ragor o wybodaeth.

Peidiwch â dangos y neges hon eto.
 
 

Lluniaeth

Mae gan Neuadd Dewi Sant ddau far ar Lefel 3, 4 a 5 yn ogystal â’r y Lolfa Jin.  Mae melysion, diodydd meddal a hufen iâ ar gael ar Lefel 2 yn ystod amrywiaeth o gyngherddau a digwyddiadau.

Y Lofla Jin (Lefel 4)

  RYDYM YN Y LOLFA’N YFED JIN

Bydd ein Lolfa Jin newydd foethus ar agor ym mis Medi i bob perfformiad gyda’r hwyr yn yr Awditoriwm. Ar y pedwerydd llawr, yn cynnig dewis o dros ddeng math ar hugain o jin, gwirodydd gyda’r gorau, coctels a champagne, dyma lle mae’r hwyl yn dechrau! Byddwn hefyd yn cynnig gwinoedd blasus, mwy eto o gwrw crefft a dewis gwych o ddiodydd meddal. Gobeithio y byddwch wrth eich bodd gyda’r bar newydd bendigedig yma. 

Diodydd yn ystod yr Egwyl

Er mwyn osgoi’r ciwiau yn ystod yr egwyl, archebwch eich diodydd cyn i’r cyngerdd ddechrau.Mae’r gwasanaeth archebu diodydd egwyl ar gael yn y ddau far. Mae bar Lefel 3 hefyd yn lle gwych i wylio gemau rygbi rhyngwladol a gynhelir yn Stadiwm y Principality yn fyw ar Sgrîn Fawr. Cynigir bwyd poeth a diodydd drwy gydol y gêm.Rydym yn lleoliad poblogaidd, hwylus i deuluoedd sy’n cynnig croeso cynnes i gefnogwyr rygbi o bell ac agos.Mwynhewch lymed neu damed i'w fwyta gyda ni cyn i chi fynd i'r stadiwm neu arhoswch gyda ni i fwynhau'r holl gyffro!

Mae hefyd amrywiaeth o ddiodydd poeth a byrbrydau drwy’r amser.

Digwyddiadau

Mae’r cyfleusterau lluniaeth yn Neuadd Dewi Sant yn cael eu rhedeg gan Arlwyo Caerdydd, y gwasanaeth arlwyo mewnol  sy’n bodloni gofynion holl leoliadau’r cyngor, gan gynnwys Castell Caerdydd, Neuadd y Ddinas, Neuadd y Sir, Y Plasty a Neuadd Dewi Sant. Mae’r cwmni’n cynnig gwasanaeth hyblyg ac amrywiol iawn, sy’n darparu ar gyfer achlysuron o bob math a maint, a bodloni amrywiaeth eang o ofynion dietegol.

O ginio bwffe syml ar gyfer cyfarfodydd anffurfiol i wasanaeth cyflawn ar gyfer cinio gala i benaethiaid gwladwriaethau a bwydlenni ar themâu arbennig ar gyfer eich anghenion corfforaethol; mae gan Arlwyo Caerdydd brofiad helaeth o ddiwallu anghenion o bob math.

I gael rhagor o wybodaeth neu os oes gennych unrhyw gwestiynau, ffoniwch y swyddfa Arlwyo ar 029 2087 8453.

Lleihau Plastigau

Yn y Neuadd, rydym wedi ymrwymo i leihau plastigau. Felly dim ond startsh corn sy’n dda i’r amgylchedd ac y gellir ei gompostio a ddefnyddiwn ar gyfer ein llestri gwydr untro.

Ymuno â'r rhestr bostio