Rydym yn defnyddio briwsion

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn gweithredu. Drwy barhau i ddefnyddio’r wefan hon, rydych yn derbyn y byddwn yn gosod cwcis ar eich cyfrifiadur. Gweler ein polisi cwcis am ragor o wybodaeth.

Peidiwch â dangos y neges hon eto.
 
 

Canllawiau Mynediad i Gwsmeriaid Neuadd Dewi Sant

Mae Neuadd Dewi Sant, un o bennaf oedfannau perfformio Caerdydd, ym man siopa newydd fywiog y ddinas, Dewi Sant.

Ers 15fed Hydref, mae’r Aes a’r cyffiniau yn fan i gerddwyr yn unig; rhwng deg o’r gloch y bore a hanner nos, saith niwrnod yr wythnos, ni chaiff yr un cerbyd fynd yno. Yn sgîl y newidiadau yma, ynghyd â’r seddi newydd, y goleuo a’r gelfyddyd gyhoeddus, mae yma strydwedd sy’n wledd i’r llygad ac sy’n creu amgylchfyd bywiocach a mwy diogel i’r rheini sy’n rhoi tro am y ddinas, neu’n byw ac yn gweithio ynddi.

Ymorolodd Cyngor Caerdydd hefyd am roi’r newidiadau ar waith er mwyn gwella cyfleusterau mynediad i gwsmeriiad, gan roi lle i gyngherddwyr triw’r Neuadd ddal i gael blas ar ddod i’r oedfan a’i defnyddio.

Canllaw ydi’r dudalen yma, sy’n cynnig gwybogaeth am fynediad i ganol y ddinas a chyrraedd yr oedfan.

1. Parcio

Y maes parcio nesaf at Neuadd Dewi Sant ydi maes parcio Dewi Sant.

Bwriwch olwg ar y tabl isod.

• Parcio diogel pedair awr ar hugain.

• 2000 o lefydd, 140 wedi’u dynodi i’r anabl.

• Mynediad i faes parcio Dewi Sant o’r Aes drwy Arcêd yr Aes ar gael tan hanner awr wedi hanner nos.

• Mynediad pedair awr ar hugain i faes parcio Dewi Sant o Sgwâr Stryd y Bont y mae mynediad iddi drwy Stryd yr Allt a Stryd Tredegar.

• Cofiwch fod mannau mynediad eraill i’r ganolfan siopa’n cau awr ar ôl i’r siopau gau.

• Bydd cilfan barcio newydd i’r anabl yn Stryd Tredegar I dri char yn ychwanegu at y llefydd parcio sy’n bod i’r anabl yn y ddinas.

Meysydd parcio eraill gerllaw (o fewn 500m)

MAES PARCIO

LLEFYDD 

LLEFYFF I'R ANABL 

John Lewis

 550

 21

Dewi Sant

2000

Llefydd i’r anabl ar gael  
ar yr wyth llawr 

NCP Lôn Great Western (Stryd Wood)           

 508

 4

NCP Stryd Pellett

292

 8

NCP Stryd Adam

500

 23

NCP Cardiff Rapports 

 127

 2

Talu a Dangos yr Orsaf Ganolog 

 426

 20

NCP Heol y Porth

 334

4

Stadiwm Caerdydd

78

2

 

2. Teithio mewn Tacsi

Mae tacsis yn gallu gollwng a chodi cwsmeriaid yn Stryd Wharton (mae Waterstones a Howells i’w cael ym mhen y stryd), sydd tua chan medr o’r oedfan.

Mae tua 400 o’r o dacsis trwyddedig yn y ddinas wedi’u cofrestru’n hygyrch i’r anabl (Tachwedd 09). Mae’r rhain ar gael gan:

Dragon, Uned 5 Heol Martin, Stad Ddiwydiannol Tremorfa, Caerdydd. CF24 5SD. 029 2033 3333.

Capital Cabs, Uned 8, Canolfan Fusnes Mellyn Mair, Gweithdai Heol Lamby, Caerdydd, De Morgannwg CF3 2EQ.  029 2077 7777.

Premier, Uned 9, Plas Wroughton, Trelái, Caerdydd. CF5 4AB. 029 2055 5555.

3. Teithio ar y Bws

Mae Neuadd Dewi Sant yng nghalon union y ddinas a chan hynny mae cyn hawsed ag y bo modd mynd iddi gan ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus. Mae’r safleoedd bysus nesaf i’w cael yn:

• Heol Pont yr Aes

• Ffordd y Brenin

• Heol Santes Fair

• Ffordd Churchill

• Stryd y Gamlas

• Heol y Brodyr Llwydion

• Teras Bute

I gael rhagor o wybodaeth ewch i: www.cardiffbus.com 
neu Traveline teleffon 0300 200 22 33
www.traveline-cymru.info

4. Parcio a Reidio

Diolch i gyfleusterau Parcio a Reidio Caerdydd mae’n haws fyth teithio i ganol y ddinas. Mae bysus Parcio a Reidio yn mynd bob chwarter awr sy’n ymorol eu bod yn cynnig gwasanaeth cyflym ac aml.

Cyfleuster 

Lleoliad 

Mannau codi a gollwng 

Diwrnodiau’r gwasanaeth 

Cost 

Dwyrain 
Caerdydd

Cyfnewidfa Pentwyn - A48 (Rhodfa’r Dwyrain ) cyf llyw lloeren: CF23 8HH

Ffordd Churchill

Llun - Gwener – Y bws cyntaf o’r maes parcio 07.17, y bws olaf o ganol y ddinas 19.30 Sadwrn – Y bws cyntaf o’r maes parcio 08.02, y bws olaf o ganol y ddinas 19.00
Llun Gwyliau Banc – Y bws cyntaf o’r maes parcio 10.00, y bws olaf o ganol y ddinas 17.30

Cŵn Caer 1 person - £2
Cŵn Caer Grŵp
- £3
Tocyn Diwrnod 1 person - £4
Tocyn Diwrnod
Grŵp - £5
£10 ar “Diwrnodiau Digwyddiadau” Stadiwm Principality   – Ewch i wefan Bysus Caerdydd i gael manylion.

*Cynnig Cŵn Caer: Parcio cyn 8.30am Llun-Gwener a thalu dim ond £2/3.

Gorllewin 
Caerdydd

Stadiwm Dinas Caerdydd cyf llyw lloeren: CF11 8EG

Stryd y Gamlas 

Llun - Gwener: 8.24am - 6pm


Tocyn Diwrnod 1 person - £4
Tocyn Diwrnod Grŵp - £5 

De 
Caerdydd

Neuadd Sir Caerdydd (Bae Caerdydd) cyf llyw lloeren: CF10 4UW 

Stryd y Gamlas  

 Sad: 9am - 6pm 

Tocyn Diwrnod 1 person - £4
Tocyn Diwrnod Grŵp - £5 


5. Teithio ar y Trên

Mae gorsafoedd trenau Caerdydd Ganolog a Stryd y Frenhines ill dwy o fewn gwaith cerdded pum munud o Neuadd Dewi Sant. I gael rhagor o wybodaeth am deithio ar y trên ewch i: www.arrivatrainswales.co.uk neu roi caniad i 08457 48 49 50.

6. Y Ganolfan Shopmobility

Mae Canolfan Shopmobility Caerdydd yn awr i’w chael ym maes parcio newydd Dewi Sant ar lefel tri.

Oriau agor:  Llun - Gwener: 9am - 7.00pm; Sadwrn: 9am - 6.00pm; Sul: Ar gau

Caiff cwsmeriaid fenthyg sgwteri am hyd eu hymweliad. Gan eu bod yn cael eu darparu o ran cymwynas, fel arfer mae’r cwsmer yn cyfrannu at y gost.  Codir prisiau maes parcio Dewi Sant am lefydd parcio cwsmeriaid shopmobility.

I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â Dewi Sant ar: 029 2039 9355.

Ymuno â'r rhestr bostio