Taith y Dreamboys ym Mhrydain yn 2019

Mae’r Dreamboys, sioe orau oll gwledydd Prydain ar ddull Magic Mike, yn eu holau, yn boethach nag erioed ac i’w canlyn sioe newydd sbon danlli grai a thaith yng ngwledydd Prydain yn 2019. 

Does dim dwywaith nad ydi’r Dreamboys yn bennaf sioe stripio dynion gwledydd Prydain, i’r dim i noson allan i’r c’wennod gyda’ch ffrindiau i gyd. Yn ddiamau eu stondin ydi’r act stripio dynion enwocaf a gynhyrchodd gwledydd Prydain erioed. Yn sgìl ymddangos yn westeion ar rai o sioeau teledu mwyaf gwledydd Prydain megis The X Factor, Britain's Got Talent, Celebrity Big Brother, Loose Women, This Morning, Geordie Shore a The Only Way Is Essex, a theithiau Byd-eang enfawr a werthodd bob tocyn, does ryfedd i’r Dreamboys gael y gair o fod yr unig grw^p stripio dynion mewn hanes i ennill bri enwogion.

Os ydych chi ar drywydd y noson allan i’r c’wennod orau fyw fyd bosib yng ngwledydd Prydain, raid i chi chwilio ddim pellach na’r palffod stripio anhygoel yma. Sioe ddwyawr yn fynd i gyd o’i dechrau i’w diwedd a’i llond o hogiau fydd yn cael gennych grefu am fwy. 

Dyma sioe sy’n fynd i gyd, llawn Cerddoriaeth, Cyhyrau, Hud a Hwyl digon i fynd â’ch gwynt chi – rhy dda i’w cholli, heb flewyn ar dafod. 

Codwch eich Tocynnau’n awr cyn iddi fynd yn rhyw hwyr.

 

 
Pris Safonol £19.50 | £24.50 | £28.50
Cyfeillion Neuadd Dewi Sant | Myfyrwyr | Dros 60 | Pobl anabl ag un cydymaith | Hawlwyr £2.00 yn llai
Grwpiau Prynwch 10 tocyn i gael yr 11eg am ddim

 A ffi bostio opsiynol o £1.50 i docynnau gael eu postio.
Am docynnau Hynt, cysylltwch â’r Swyddfa Docynnau ar 02920 878444. Dim ond hyn a hyn o le sydd ar gael – archebwch yn gynnar i osgoi siom.

 
Bwciwch Nawr