Sing-a-long-a The Greatest Showman

Mae Singalonga Productions, cynhyrchwyr Singalonga Sound of Music a Singalonga GREASE, yn dod â’u sioe ddiweddaraf atoch chi, y ffilm gerdd ysgubol o lwyddiannus mae pawb yn ei chanu rownd y rîl - The Greatest Showman! 

Look out ‘cause here I come.... 

Gewch chi roi hwb fawr i Hugh Jackman, blysio Zach Efron a hisian Rebecca Ferguson (…neu beidio) a chithau’n profi The Greatest Showman yn y ffordd orau fyw fyd bosib - a geiriau’r caneuon ar y sgrîn fel y gallwch forio canu nerth esgyrn eich pennau ac yn falch o’ch co. 

And I’m marching on to the beat I drum... 

Bydd ein llywydd byw yn dysgu set o symudiadau dawns dihafal i bawb, yn dangos i chi sut i ddefnyddio ein bagiau celfi rhyngweithiol, ac yn cael gennych ymarfer eich bonllefau, eich hwtian a hyd yn oed ambell i chwiban blaidd. 

Allai’r un dim fod yn haws nac yn fwy o hwyl! 

Rydym yn mawr gymell gwisg ffansi ac mae’n hanfodol i bob copa walltog yn y gynulleidfa gymryd rhan. 

Y CHI, y gynulleidfa, fydd yn ail-sgrifennu’r sêr! 

Cofiwch mai dangos y ffilm sydd yma, nid sioe fyw.

 
Pris Safonol £18
Plant dan 16 oed £14

A ffi bostio opsiynol o £1 i docynnau gael eu postio.
Am docynnau Hynt, cysylltwch â’r Swyddfa Docynnau ar 02920 878444. Dim ond hyn a hyn o le sydd ar gael – archebwch yn gynnar i osgoi siom.

 
Bwciwch Nawr
 
 12.30 / 17.30  Bar yn agor - diodydd meddal, diodydd poeth a byrbrydau ar gael  
 14.00 / 19.00   DECHRAU
 15.20 / 20.20  Egwyl
 16.50 / 21.50  DIWEDD

NODER: Amseroedd bras - gallant newid.