Woman to Woman

Oherwydd galw aruthrol amdani, ychwanegwyd oedau dros ben at daith Woman To Woman yn 2019.

Mae taith Woman To Woman yn dwyn ynghyd dair o hoff gantoresau a chyfansoddwyr caneuon gwledydd Prydain, a’r enwocaf, Judie Tzuke, Beverley Craven a Julia Fordham. Mae’r cydweithrediad dihafal yma’n gyfle prin i weld y tair artist yn perfformio eu hits a’u traciau albymau clasurol gyda’i gilydd ochr yn ochr â’u band campus.

Bydd y profiad bythgofiadwy yma’n gyfle i glywed hoff ganeuon gan gynnwys y llwyddiant ysgubol drwy’r byd yn grwn Promise Me, Happy Ever After, Welcome To The Cruise, Holding On, (Love Moves In) Mysterious Ways, y gân atgofus Stay With Me Till Dawn a llawer o ffefrynnau eraill yn cynnwys y sengl newydd hyfryd Safe a chaneuon o’u halbwm nesaf.

Yn sôn am y daith sydd ar ddod, meddai’r merched, “We cannot wait to share a stage together, create beautiful vocal harmonies and collaborate on each other’s songs”.

Mae yna becyn Cwrdd a Chyfarch ar gael hefyd, felly mae hon yn addo’n deg bod yn noson wirioneddol gofiadwy.

www.WTWLIVE.com

 
 Pris Safonol £29.50 | £35 | £37.50

Cwrdd a Chyfarch VIP
- Cwrdd a Chyfarch 
- Cyfle am Lun 
- Print Lithograffig wedi’i Lofnodi

£77
 Defnyddwyr cadeiriau olwyn ynghyd ag un cydymaith (Ffoniwch y Swyddfa Docynnau ar  029 2087 8444) seddi'r stalau @ £29.50 pob tocyn

A ffi bostio opsiynol o £1.50 i docynnau gael eu postio.
Am docynnau Hynt, cysylltwch â’r Swyddfa Docynnau ar 02920 878444. Dim ond hyn a hyn o le sydd ar gael – archebwch yn gynnar i osgoi siom.

 

 
Bwciwch Nawr