Sixties Gold 2019

Hermans Hermits – Pum Mlwyddiant a Hanner Cant
The Merseybeats
The Marmalade
Wayne Fontana And The Mindbenders
Love Affair - Steve Ellis

Daw Sixties Gold 2019 yn ei ôl ac iddo gymanfa gryfach fyth o artistiaid a sgoriodd rhyngddyn dros hanner cant o hits ar frig siartiau gwledydd Prydain.

Hermans Hermits. Un o fandiau’r chwe degau a werthodd orau. O’u dechreuadau ym Manceinion ym 1964, cafodd y band 23 o Senglau Hit, 10 o Albymau Hit, ymddangos mewn tair ffilm o bwys a hyd yn hyn gwerthu dros 75 Miliwn o recordiau. Eleni ydi taith eu Pumlwyddiant a Hanner Cant.

Mae eu hits yn cynnwys: There’s A kind Of Hush, Silhouettes, Can’t You Hear My Heart Beat, Wonderful World, A Must to Avoid, a Llawer at Hynny.

The Merseybeats. Stori lwyddiant eto o flynyddoedd twf Merseybeat Lerpwl. Recordiau hit cofiadwy gwych yn cynnwys Sorrow, I Think of You a Wishin’ and Hopin’. 

The Marmalade oedd pencampwyr Curiad yr Alban ym 1968, yn ychwanegu cainc eto at sain y gân pop glasurol, gyda chytgordiau penigamp. Mae eu hits yn cynnwys: Lovin’ Things, Reflections of My Life, Falling Apart at The Seams, Cousin Norman, a’u hit sgubol a gyfansoddwyd gan Lennon & McCartney, Ob-la-Di Ob-la-Da. 

Wayne Fontana & The Mindbenders. Un eto o’r bandiau eiconig o Fanceinion, hefyd ar daith eu Pumlwyddiant a Hanner Cant. Cafodd Wayne ei hit cyntaf ym 1964, Um, Um, Um, Um, Um, Um, wedyn The Game Of Love, Pamela Pamela, Groovy Kind Of Love. 

Steve Ellis, canwr blaen gwreiddiol a sefydlwr Love Affair a gafodd bum sengl yn yr Ugain Uchaf gan gynnwys eu Rhif Un Everlasting Love. 

Dewch i ail-fyw hud y Chwe Degau yng nghwmni Pump o actau siartiau mwya’r degawd. Codwch eich tocynnau drwy roi caniad i’r swyddfa docynnau neu eu codi ar lein. 

 
 Pris Safonol £37.50

A ffi bostio opsiynol o £1.50 i docynnau gael eu postio.
Am docynnau Hynt, cysylltwch â’r Swyddfa Docynnau ar 02920 878444. Dim ond hyn a hyn o le sydd ar gael – archebwch yn gynnar i osgoi siom.

 
Bwciwch Nawr