ELO Again

Mae ELO AGAIN yn eu holau ac i’w canlyn eu taith drawiadol 'Return To The Blue' sy’n dathlu cerddoriaeth wirioneddol hollgyffredinol Jeff Lynne a’r Electric Light Orchestra.Maen nhw’n rhoi blas dramatig i chi o rotsiwn beth oedd un o gyngherddau ELO pan oedden nhw ar eu hanterth, a’r holl brofiad yn cael ei ail-greu’n broffesiynol ag atgynhyrchu sain, sioe oleuadau ac effeithiau gweledol gwych.

Perfformir yr hits mawr i gyd – MR BLUE SKY, LIVIN’ THING, SWEET TALKIN’ WOMAN, ROLL OVER BEETHOVEN, WILD WEST HERO, DON'T BRING ME DOWN, THE DIARY OF HORACE WIMP, TELEPHONE LINE, TURN TO STONE a llond gwlad at hynny.

Mae ELO AGAIN yn rhoi i chi effaith fyw odidog trefniannau enwog ELO, yn dannau ac yn lleisiau esgynnol, llawn dyfnder a thôn.A does dim dau na wyddan nhw sut i ddifyrru, a’r naill hit ar ôl y llall yn ddi-dor.Mae eu gwedd ar MR BLUE SKY yn llawn angerdd a thanbeidrwydd a bydd pob copa walltog yn yr awditoriwm ar ei draed.

Dewch i ail-fyw oes Roc Glam yn yr unfed ganrif ar hugain ac ELO AGAIN yn talu teyrnged i ganeuon crefftus, hardd Jeff Lynne.Gewch chi forio yn arddull symffonig ddihafal ELO a chlywed rhai o ganeuon roc a pop clasurol bythgofiadwy ein cenhedlaeth.

Daw’r bythol MR BLUE SKY yn ei ôl, felly Roll Over Beethoven – Roc a Rôl Sydd Frenin.

 
 Pris Safonol £25.50
 Grwpiau o 10 neu’n fwy (ffoniwch y Swyddfa Docynnau ar 029 2087 8444) £2 oddi wrth bob tocyn

A ffi bostio opsiynol o £1 i docynnau gael eu postio.
Am docynnau Hynt, cysylltwch â’r Swyddfa Docynnau ar 02920 878444. Dim ond hyn a hyn o le sydd ar gael – archebwch yn gynnar i osgoi siom.

 
Bwciwch Nawr
 
18.00  Bars open
19.30  START
20.25  Interval
21.45  FINISH