Art Garfunkel

  • Rhaid i blant dan 14 oed fod gydag oedolyn
 

Yn Perfformio Cip yn ôl ar ei Yrfa

Daw’r canwr-gyfansoddwr caneuon chwedlonol Art Garfunkel yn ei ôl i Gaerdydd nos Wener 12 Ebrill 2019 mewn Noson o Gân a Straeon o’i yrfa bum degawd ryfeddol. 

Ers y 1960au, daeth anrhydeddau rhif y gwlith i ran Garfunkel gan gynnwys gwobrau Grammy, enwebiadau Golden Globe, llwyddiant aruthrol yn y siartiau a lle haeddiannol yn Oriel Enwogion Roc a Rôl. 

Mae’r brodor o Efrog Newydd o werthiant safle diemwnt yn fwyaf adnabyddus ar gorn bod yn hanner Simon & Garfunkel ochr yn ochr â’r cyfansoddwr caneuon eiconig Paul Simon. Dilynodd llwyddiannau ysgubol yn cynnwys Mrs RobinsonThe BoxerBridge Over Troubled Water a The Sound of Silence. 

Ar ôl i’r deuawd wahanu ym 1970, cychwynnodd Garfunkel ar yrfa solo hynod o lwyddiannus. Roedd y clasur dwys Bright Eyes yn amlwg ei le yn y ffilm fywluniedig i blant Watership Down, ac aeth y gân rhagddi i ddod y sengl werthodd fwyaf ym 1979 yng ngwledydd Prydain. 

Ymddangosodd yr artist aml ei ddoniau hefyd mewn sawl ffilm yn cynnwys Catch-22 a sgrifennodd hyd yn oed gasgliad o’i gerddi ei hun o’r enw Still Water. 

Yn ogystal â pherfformio’i ganeuon mwyaf hoff yn fyw, mae’r noson arbennig yma hefyd yn cynnwys darlleniadau cyfareddol o hunangofiant newydd Garfunkel, What Is It All But Luminous: Notes from an Underground Man.

 
Pris Safonol (Uchafswm o 6 tocyn fesul trafodyn) £39.50 | £47 | £59.50
Defnyddwyr cadeiriau olwyn ynghyd ag un cydymaith (Ffoniwch y Swyddfa Docynnau ar 029 2087 8444) seddi'r stalau @ £39.50 pob tocyn

A ffi bostio opsiynol o £1 i docynnau gael eu postio.
Am docynnau Hynt, cysylltwch â’r Swyddfa Docynnau ar 02920 878444. Dim ond hyn a hyn o le sydd ar gael – archebwch yn gynnar i osgoi siom.

 
Bwciwch Nawr