Adam Ant

Ac Eraill

Yn dilyn taith drwy’r byd i oedfannau dan eu sang drwy hyd a lled y Deyrnas Unedig, yr Unol Daleithiau, Canada, Awstralia a Seland Newydd, dyma Adam Ant yn cadarnhau ei Daith ‘Friend or Foe’ yng ngwledydd Prydain yn 2019. Bydd Adam Ant yn chwarae ei albwm carreg filltir ‘Friend or Foe’ ar ei hyd yn ogystal â senglau fu ar frig y siartiau a ffefrynnau personol. 

Yr albwm ‘Friend or Foe’ oedd y cyntaf i Adam ei ryddhau fel artist solo ac roedd arno dair sengl hit. Cyrhaeddodd yr hit ysgubol ‘Goody Two Shoes’ #1 yng ngwledydd Prydain, hefyd #1 yn Awstralia a #6 yn siart Billboard yr Unol Daleithiau. Roedd ‘Friend or Foe’, y sengl, yn hit arall yn y deg uchaf yng ngwledydd Prydain a ‘Desperate But Not Serious’ oedd trydydd hit ysgubol yr albwm ym Mhrydain. Aeth ‘Friend or Foe’, ei albwm solo mwyaf llwyddiannus hyd yma, i #5 yng ngwledydd Prydain a chadarnhawyd ei safle albwm aur ar ddwy lan yr Iwerydd ar ôl gwerthu dros gan mil o gopïau. Yn yr Unol Daleithiau cyrhaeddodd yr albwm #16 ar siart albymau Billboard a rhoi enw Adam Ant ar enau pawb, a barodd enwebiad Grammy am yr Artist Newydd Gorau a Gwobr MTV am ‘Y Dyn Mwyaf Secsi’n Fyw’!

 
Pris Safonol £37.50 | £41.00

 A ffi bostio opsiynol o £1.50 i docynnau gael eu postio.
Am docynnau Hynt, cysylltwch â’r Swyddfa Docynnau ar 02920 878444. Dim ond hyn a hyn o le sydd ar gael – archebwch yn gynnar i osgoi siom.

 
Bwciwch Nawr