Ólafur Arnalds

  • Rhaid i blant dan 14 oed fod gydag oedolyn
 

Clwb Ifor Bach 
yn cyflwyno 
ÓLAFUR ARNALDS

Mae’r aml-offerynnwr a’r cynhyrchydd o Wlad yr Iâ, Ólafur Arnalds, yn dod â’i seinfydau syfrdanol i’r Neuadd i gefnogi ei albwm newydd anhygoel re:member.

Mae Ólafur yn cyd-asio’r tannau a’r piano â dolennau a churiadau’n croesi o ambient ac electronig i pop. Daeth y ddawn bencampawriaethol i’r amlwg gyntaf gyda’r bandiau Fighting Shit a Celestine cyn ffurfio’r prosiect techno Kiasmos gyda Janus Rasmussen o’r band electro-pop o Wlad yr Iâ, Bloodgroup.

Ac eto buan yr aeth Ólafur rhagddo i feithrin gyrfa solo lwyddiannus lle’r hogodd ymhellach ei ymagwedd arbrofol tuag at ei waith. Ei bwedwerydd albwm solo, re:member ydi ei gyfansoddiad hynotaf a harddaf hyd yma; yn heigio o’r gerddoriaeth mae’n ei chlywed i gyfeilio i’w ffimiau meddyliol ei hun.

Meddai Ólafur:  “This is my breaking out-of-a-shell album. This is me taking the raw influences that I have from all these different musical genres and not filtering them. I always have my hands in many different projects at once, and I feel that this album represents that.”

 
Pris Safonol £32

A ffi bostio opsiynol o £1 i docynnau gael eu postio.
Am docynnau Hynt, cysylltwch â’r Swyddfa Docynnau ar 02920 878444. Dim ond hyn a hyn o le sydd ar gael – archebwch yn gynnar i osgoi siom.

 
Bwciwch Nawr
 

Cliciwch yma i ddarllen am Ólafur Arnalds – Bywgraffiad 2018.