Jackie Oates

  • Lolfa Lefel 3
 

Canwr a ffidler sy’n hanu o Swydd Stafford ydi Jackie Oates a’i henw’n gyfystyr ag ailfywiogi canu gwerin Lloeg,r yn difyrru cynulleidfaoedd â chydbwysedd cain traddodiad ac ailddyfeisio. Bu ei llais persain a’i harddull ffidil ddychmygus o wylofus yn gyfrwng ennill iddi sawl Gwobr Canu Gwerin gan y BBC yn ystod gyrfa recordio ddeng mlynedd a gychwynnodd pan oedd yn aelod o Unthanks ar eu dechrau ac a aeth rhagddi â chwe albwm solo. Mae’n aelod o’r gydweithfa Imagined Village a chydweithredodd hefyd ag Alasdair Roberts, Belinda O’Hooley a’i brawd Jim Moray ar ddeunydd yn amrywio o faledi traddodiadol i hwiangerddi iasol a chaneuon cyfoes soniarus, gydag ennill iddi selogion y tu hwnt i’r sîn gwerin lle daeth i oed.

www.jackieoates.co.uk

 
 Pris Safonol

£13 Ymlaen llaw | £14 Ar y diwrnod

 Plant pymtheg oed ac iau £5
 Aelodau REACT (16 oed – 25 oed)  (cliciwch yma i gael gwybod sut i ymuno)  £10

Cyfeillion Neuadd Dewi Sant | Dros 60 | Myfyrwyr | Hawlwyr | Pobl anabl ag un cydymaith

£2 oddi wrth bob tocyn

Grwpiau o 10 neu’n fwy (Ffoniwch y Swyddfa Docynnau ar  029 2087 8444)

£1 oddi wrth bob tocyn

 A ffi bostio opsiynol o £1.50 i docynnau gael eu postio.
Am docynnau Hynt, cysylltwch â’r Swyddfa Docynnau ar 02920 878444. Dim ond hyn a hyn o le sydd ar gael – archebwch yn gynnar i osgoi siom.
*Dim ond un gostyngiad ar gyfer pob tocyn. Rhaid dangos prawf o’r hawl wrth gasglu’r tocyn.

 
Bwciwch Nawr