Here Come The Boys

Hon ydy’r sioe y bu pawb yn aros amdani. 

Bydd tair seren fwyaf y byd dawns yn cyfuno eu talentau anhygoel mewn sioe newydd sbon.

Gwyliwch Aljaž Škorjanec, Giovanni Pernice a Gorka Marquez, cewri dawns neuadd a dawns Ladin mewn brwydr ddawns. 

Mewn clwb y bydd hyn yn digwydd a’r her yw penderfynu pwy sydd orau ar y llawr dawnsio! 

Byddan nhw yma i greu argraff, ein hannog i’w canmol pan ân nhw benben mewn cystadleuaeth ddawns! Byddan nhw’n brwydro bob yn ail noson, ym maes dawns Ladinaidd, neuadd, fasnachol a chyfoes! Mae angen i chi benderfynu pwy fydd y pencampwr. 

Bydd ein DJ yn dewis y caneuon ac yn troelli’r disgiau tra bydd ein bois yn dangos i chi pam mai nhw yw gwir gewri dawns. 

O J.Lo i Bruno Mars, MJ, Gloria Estefan, anthemau dawns a chlasuron clybiau!  A bydd offerynnwr taro a gitarydd flamenco, ac Elizabeth Troy (a fu gyda Clean Bandit gynt) yn canu. 

Mae clasuron y llawr dawnsio yn siŵr o’ch codi ar eich traed wrth i chi fwynhau gwledd weledol sioe’r bois! 

Bydd y bleser gudd hon fel dim un sioe Strictly o’i blaen.Cyfarwyddwyd a choreograffwyd gan Gareth Walker, cyd-goreograffwyd gan Janette Manrara a chynhyrchwyd gan gynhyrchwyr Rip it Up a Remembering Fred. 

Dewch i weld pam caiff rhain eu hystyried yn feistri dawns. 

Paratowch, Gymry, mae’r bois yn barod!

 
Pris Safonol £27.50  Lefelau 9 a 13
  £31  Lefelau 3, 7 a 11 (ôl)
  £40  Lefelau 2, 8, 10, 11 (blaen) & 12
  £45 Stalau a Lefelau 1

Cwrdd a Chyfarch Person Pwysig 

Mae’r sesiwn y cynnwys: 

- Ffotograff o Aljaz, Giovani a Gorka wedi ei lofnodi
- Cordyn Gwddf Person Pwysig
- Cwrdd a Chyfarch

Fel y dywedwyd ynghynt, ychwanegiad/dyrchafiad ydy’r Cwrdd a Chyfarch ac mae ar gael ar unrhyw bris tocyn.  Nid yw’r Cwrdd a Chyfarch ond yn ddilys gyda thocyn sioe/perfformiad.

£100  
Defnyddwyr cadeiriau olwyn ynghyd ag un cydymaith - ffoniwch y Swyddfa Docynnau ar 029 2087 8444 seddi'r stalau @ £27.50 pob tocyn  

A ffi bostio opsiynol o £1.50 i docynnau gael eu postio.
Am docynnau Hynt, cysylltwch â’r Swyddfa Docynnau ar 02920 878444. Dim ond hyn a hyn o le sydd ar gael – archebwch yn gynnar i osgoi siom.

 
Bwciwch Nawr