Romesh Ranganathan

Yn addas i: 14+ oed (Rhegi a phynciau i oedolion yn debygol)

Mae Romesh yn ei ôl ac i’w ganlyn sioe newydd sbon danlli grai ‘The Cynic’s Mixtape’, ei sioe fwyaf ciaidd o onest hyd yma. 

Newydd wneud ‘The Misadventures of Romesh Ranganathan’, ‘A League Of Their Own’ a ‘Judge Romesh’, mae’n rhoi byd adloniant o’r neilltu i gyflwyno detholiad wedi’i gasglu’n ddiwyd o’r holl bethau sy’n dân ar ei groen ers y daith olaf, gan gynnwys pam mae ceisio achub yr amgylchedd yn sgam, pam nad oes yr un ohonon ni’n rhydd go iawn, a’i amheuon bod ei wraig yn defnyddio anoddefiad glwten er mwyn osgoi cyd-gysgu ag ef.  

Mae’r sioe ar fynd yn 2019, peidiwch â’i cholli.

*Ac Eraill

 

 

 

 
Pris Safonol £25

 A ffi bostio opsiynol o £1.50 i docynnau gael eu postio.
*Am docynnau Hynt, cysylltwch â’r Swyddfa Docynnau ar 02920 878444. Dim ond hyn a hyn o le sydd ar gael – archebwch yn gynnar i osgoi siom.

 
Dim tocynnau ar ôl