Les Musicals 2019

Taith Gyngerdd Fyw 'Les Musicals' ydi’r dathliad Theatr Gerdd gorau fyw fyd bosib. 

Ymunodd Jonathan Ansell (Blaenwr G4) a Jai McDowall (Britain’s Got Talent - Enillydd) i greu cyngerdd dramatig fydd yn codi croen gŵydd arnoch. Mae’r noson egnïol o leisiol yma’n rhoi stondin i fwy fyth o ganeuon ysgubol o lwyddiannus o ddramâu cerdd mwya’r oesoedd, a dau o leisiau gyda goreuon y byd yn dod â nhw atoch.

Dewch i forio ym myd Theatr Gerdd, yn glasuron o Les Misérables, Phantom Of The Opera, Blood Brothers, Wicked, Jesus Christ Superstar, West Side Story, Miss Saigon, Chess, We Will Rock You a llond gwlad at hynny…

Ar ôl sioeau werthodd bob tocyn yn 2018, dyma gyngerdd ar ei ail flwyddyn gyffrous sydd heb flewyn ar dafod yn rhy dda i’w golli.

-------------

Datganiad y cynhyrchwyr

"Fydd Rhydian Roberts ddim yn perfformio ar daith 2019 'Les Musicals' ond mae’n dymuno’n dda i Jonathan a Jai yn ail flwyddyn y sioe ar daith.”

 
Pris Safonal £25 

Mae pecyn VIP yn cynnwys:
- Cwrdd a Chyfarch Jonathan Ansell a Jai McDowall am chwech o’r gloch
- Sedd gyda’r gorau
- Gwydraid cyfarch o win neu sudd
- Cyfle i dynnu lluniau a chael llofnodion

£57.50

 A ffi bostio opsiynol o £1.50 i docynnau gael eu postio.
Am docynnau Hynt, cysylltwch â’r Swyddfa Docynnau ar 02920 878444. Dim ond hyn a hyn o le sydd ar gael – archebwch yn gynnar i osgoi siom.

 
Bwciwch Nawr