What's Love Got To Do With It?

  • Rhaid i blant dan 14 oed fod gydag oedolyn
 

What's Love Got To Do With It? ydi’r sioe newydd orfoleddus sy’n dathlu cerddoriaeth y gantores anhygoel Tina Turner.  

Y cynhyrchwyr arobryn roes i chi’r sioe sgubol o lwyddiannus Whitney - Queen Of The Night sy’n dod â What’s Love Got To Do With It? atoch chi, sef y deyrnged orau oll i un o artistiaid cerddorol mwyaf eiconig a hoff ein cenhedlaeth.   

Yn y sioe theatr deithiol newydd sbon danlli yma, caiff y gynulleidfa ddisgwyl noson yn heigio gan egni, yn roc a rôl sy’n eli i’r galon yn cynnwys hits mwyaf Tina a berfformir gan ddawn leisiol anhygoel Elesha Paul Moses (Whitney - Queen Of The Night, The Voice, X Factor) ac iddi’n gefn band byw deg darn. 

Caiff y gynulleidfa edrych ymlaen at glywed trefniannau cerddorol aruthrol o hits clasurol mwyaf poblogaidd Tina o yrfa syfrdanol yn ymestyn dros fwy na hanner can mlynedd, gan gynnwys: Private Dancer, What's Love Got To Do With It?, Proud Mary, River Deep, Nutbush City Limits, Simply The Best a llawer at hynny. 

Mae’r profiad cerddorol yma’n rhy dda i’w golli, yn chwip o ddathliad un o gantoresau mwyaf ein dydd.  

 

 
Pris Safonol (Uchafrif o 6 thocyn yr un) £25.00 | £28.00 | £30.00
Defnyddwyr cadair olwyn ac un cydymaith (Ffoniwch y Swyddfa Docynnau ar 029 2087 8444) seddi'r stalau @
£25.00 pob tocyn

A ffi bostio opsiynol o £1.50 i docynnau gael eu postio.
Am docynnau Hynt, cysylltwch â’r Swyddfa Docynnau ar 02920 878444. Dim ond hyn a hyn o le sydd ar gael – archebwch yn gynnar i osgoi siom.

 
Bwciwch Nawr