Some Guys Have All The Luck

Hanner can mlynedd ar ôl rhyddhau albwm cyntaf Rod, Some Guys Have All The Luck - mae’r Rod Stewart Story yn ôl mewn theatrau yn 2019, yn sioe newydd sbon danlli grai, yn dod â chyngerdd byw penigamp i’r llwyfan i ddathlu un o eiconau mwyaf cerddoriaeth roc.Mae’r blaenwr Paul Metcalfe yn anhygoel yn rhan Rod yn dal i’r dim holl gyffro, egni a charisma’r perfformiwr chwedlonol yn cynnwys y symudiadau drwgenwog, y ddawn dyn sioe a’r hwyl a wnaeth Rod yn un o artistiaid mwyaf llwyddiannus yr oesoedd.

Mae hanner cynta’r sioe’n cynnwys hits o yrfa gynharach Rod megis Handbags & Gladrags a You Wear It Well ynghyd â rhai o ffefrynnau’r Faces megis Stay With Me a Twisting The Night Away, i gyd wedi’u cyd-weu â straeon diddorol a difyr, yn mynd â chi ar daith gerddorol drwy yrfa Rod dros yr hanner can mlynedd aeth heibio – o ddechreuadau distadl hyd at fod yn archseren.

Parti mawr ydi’r ail hanner, yn cynnwys holl hits mawr Rod megis Maggie May, Baby Jane, Da Ya Think I’m Sexy, Sailing, Tonight’s The Night, The First Cut Is The Deepest a You’re In My Heart. Mae’r cynhyrchiad yma o waed coch cyfan, bellach ar ei bedwaredd flwyddyn, yn cynnwys set llwyfan trawiadol, sioe oleuadau ddigon o ryfeddod, band byw i’r dim a thafluniadau ar draws y llwyfan.

 
Pris Safonol £26.50
Cyfeillion Neuadd Dewi Sant | Dros 60 | Myfyrwyr | Hawlwyr | Pobl anabl ag un cydymaith £2 yn llai
Grwpiau 10+ (Ffoniwch y Swyddfa Docynnau ar 029 2087 8444) £2 oddi wrth bob tocyn

A ffi bostio opsiynol o £1.50 i docynnau gael eu postio.
Am docynnau Hynt, cysylltwch â’r Swyddfa Docynnau ar 02920 878444. Dim ond hyn a hyn o le sydd ar gael – archebwch yn gynnar i osgoi siom.

 
Bwciwch Nawr