Cerddorfa Genedlaethol Ieuenctid Cymru

CERDDORFA GENEDLAETHOL IEUENCTID CYMRU 
Arweinydd: Andrew Litton

Grace Williams: Fantasia on Welsh Nursery Tunes
Copland: The Tender Land Suite
Shostakovich: Symffoni rhif 10

Unwaith eto mae Cerddorfa Genedlaethol Ieuenctid Cymru’n dwyn i ben ei thaith gyngerdd haf flynyddol yn Neuadd Dewi Sant, y tro yma dan arweiniad meistrolgar yr arweinydd o Americanwr o’r radd flaenaf, Andrew Litton. Mae’r rhaglen yn dal i’r dim hanfod tri chyfandir pur wahanol â’r Fantasia chwareus a’r darlun o Orllewin Canol America’n cyferbynnu’n odidog â drama symffoni Shostakovich.Dyma gerddorion ifainc mwyaf dawnus Cymru mewn perfformiad sy’n addo’n deg bod yn rhy dda i’w golli.

 

 
Pris Safonol £16
Dan 25 oed £5
Cyfeillion Neuadd Dewi Sant | Dros 60 | Myfyrwyr | Hawlwyr | Pobl anabl ag un cydymaith £2.50 yn llai llai

 A ffi bostio opsiynol o £1.50 i docynnau gael eu postio.
Am docynnau Hynt, cysylltwch â’r Swyddfa Docynnau ar 02920 878444. Dim ond hyn a hyn o le sydd ar gael – archebwch yn gynnar i osgoi siom.
*Dim ond un gostyngiad ar gyfer pob tocyn. Rhaid dangos prawf o’r hawl wrth gasglu’r tocyn.

 
Bwciwch Nawr