Cerddorfa Ffilharmonig Caerdydd

CERDDORFA FFILHARMONIG CAERDYDD
Tymor 2018/19

Croeso i 37ain tymor cyngherddau Cerddorfa Ffilharmonig Caerdydd yn Neuadd Dewi Sant ac mae gennym bedair cyngerdd arall gyda rhywbeth i bawb. 

2018 yw canmlwyddiant diwedd y Rhyfel Byd Cyntaf, a byddwn yn agor ein tymor gyda chyngerdd i goffau cyfansoddwyr a fu’n gwasanaethu yn y “rhyfel i ddiweddu pob rhyfel”.Bydd y perfformiad yn cynnwys medli o donau poblogaidd a ganai’r bechgyn yn y ffosydd a byddwn yn eich gwahodd i ganu ynghyd â’r gerddorfa! 

Cyngerdd mwyaf poblogaidd ein tymor bob tro yw Noson yn y Sinema, a’r llynedd gwnaethom ddotio gweld pob tocyn yn mynd!Rydyn ni’n gobeithio y bydd dewis eleni lawn mor boblogaidd, ac mae gennym ni lawer o ffilmiau nad ydyn ni wedi eu perfformio o’r blaen.Mae wir yn gyngerdd ar gyfer y teulu oll, gyda ffilmiau o Jurassic World i Mary Poppins! 

Wedi Noson yn y Sinema ym mis Rhagfyr, bydd Noson yn y Proms ym mis Mawrth, gyda rhaglen o rai o’r darnau cerddoriaeth mwyaf teimladwy a chyffrous - llawer ohonynt wedi eu perfformio yng nghyngerdd enwog Y Noson Olaf yn y Royal Albert Hall. 

Daw’r tymor i ben ym mis Mehefin gyda dau ‘Bump Enwog’, gan Beethoven a Shostakovich. 

Rydyn ni’n edrych ymlaen at estyn croeso cynnes i chi unwaith eto yn Neuadd Dewi Sant.

Tocynnau*: £7 - £24
Consesiynau ar gael 
*A ffi bostio opsiynol o £1 i docynnau gael eu postio. 

Michael Bell MBE
Arweinydd

Cerddorfa Ffilharmonig Caerdydd

Mai 2019
M T W T F S S
 

Ymuno â'r rhestr bostio