Fisherman's Friends

  • Rhaid i blant dan 14 oed fod gydag oedolyn
 

DRYSAU'N AGOR 7PM

Dyma’r ‘band bwi’ gwreiddiol, ynghlwm gan gyfeillgarwch oes a phrofiad ar y cyd, sef y Fisherman’s Friends sy’n cyfarfod ar y Platt ar yr harbwr yn nhref eu geni Port Isaac ers deng mlynedd ar hugain i ganu caneuon y môr. Ddeng mlynedd yn ôl cafwyd ganddyn nhw lofnodi’r cytundeb recordio a welodd eu halbwm Port Isaac’s Fisherman’s Friends yn cyrraedd safle Aur a hwythau’n dod yr act werin draddodiadol gyntaf erioed i gael albwm yn neg uchaf gwledydd Prydain. 

Adroddir stori wir sut y digwyddodd hynny yn ffilm eli i’r galon fwyaf llwyddiannus y flwyddyn Fisherman’s Friends, yn serennu Daniel Mays, James Purefoy, Tuppence Middleton a Noel Clarke ac ymddangosiadau cameo gan y grŵp y mae eu lleisiau hefyd i’w clywed ar y trac sain.Ar ben hynny, fel y bydd tynged yn rhoi rhyw dro anhygoel ar bethau, mae Pete Hicks sy’n ymddangos ar Fisherman’s Friends ar y sgrîn bellach wedi ymuno â’r gymanfa ei hun a bydd ar daith gyda’r hogiau yn yr hydref. Rhyddhawyd y ffilm newydd mewn sinemâu ar draws y DU ym mis Mawrth 2019.

 “Singing live is what we’re all about, it’s why we started the group in the first place,” meddai Meistr y Ddefod a’r dyn bas Jon Cleave, sydd i’w adnabod ar unwaith o’i fwstas dros ben llestri. 

 
 Pris Safonol  £27.50 | £35.00

Ynghyd â ffi postio opsiynol o £1.50.
Am docynnau Hynt, cysylltwch â’r Swyddfa Docynnau ar 02920 878444. Dim ond hyn a hyn o le sydd ar gael – archebwch yn gynnar i osgoi siom.

 
Bwciwch Nawr