Teithiau BBC Cymru - Cymraeg
22 Jul 2022 3.00pm, 29 Jul 2022 3.00pm
Book nowCamwch i ddyfodol darlledu yn stiwdios diweddaraf a mwyaf blaenllaw’r BBC yn y Sgwâr Canolog, Caerdydd.
Ydych chi erioed wedi meddwl sut mae effeithiau sain yn cael eu hychwanegu at eich hoff bodlediadau? Neu sut deimlad yw darllen y newyddion? Ymunwch â’n tywyswyr cyfeillgar ar daith y tu ôl i’r llen yn BBC Cymru. Cewch ymweld â’n stiwdios teledu a radio newydd sbon, a chael clywed sut mae creu rhaglenni’r BBC. Ar eich taith byddwch yn:
Mae hon yn ganolfan ddarlledu fyw, sy’n golygu nad oes yr un daith yr un fath ag un arall ac y bydd pob ymweliad yn unigryw.
Os ydych chi’n archebu i grŵp o bobl neu fod gennych chi anghenion penodol o ran mynediad, ffoniwch 029 2087 8444.
Rhaid i bob oedolyn sy’n mynd ar daith ddod ag ID â llun arno.
Mae’n rhaid i oedolyn ddod gyda phlant dan 18 oed. Mae’r daith dywys yn addas i blant dros 7 oed.
Bydd eich bagiau’n cael eu harchwilio felly, i osgoi oedi, rydyn ni’n argymell bod ymwelwyr ddim yn dod â bagiau mawr nac eitemau diangen.