Syniadau da am anrhegion Nadolig gwych

Syniadau da am anrhegion Nadolig gwych

Syniadau da am anrhegion Nadolig gwych

Mae adeg orau’r flwyddyn wedi’n cyrraedd ni, ac mae gennym syniadau gwych am anrhegion Nadolig, ynghyd â rhaglen dymhorol ffantastig drwy gydol mis Rhagfyr yn Neuadd Dewi Sant!

Sioeau Bale dros y Nadolig:Cinderella, The Nutcracker a Swan Lake
Dydd Mawrth 19 – Dydd Sul 31 Rhagfyr 2017 – 2pm, 5.30pm a 7pm

Cyn y diwrnod mawr, mae llawer i’ch diddanu yn y tywydd oer ‘ma!Bydd Only Men Aloud (Dydd Gwener 1 Rhagfyr) a The Bootleg Beatles (Dydd Mawrth 5 Rhagfyr) yn dychwelyd ynghyd â Cherddorfa Ffilharmonig Caerdydd (Dydd Gwener 8 Rhagfyr) i berfformio A Night at the Movies, sy'n talu teyrnged i'r cyfansoddwr eiconig, John Williams.Byddwch yn clywed cerddoriaeth gofiadwy o E.T, Jurassic Park a bydd yr ail hanner i gyd yn cynnwys cerddoriaeth o Star Wars!Ymhlith y goreuon ym mis Rhagfyr cawn glywed sioe dymhorol hyfryd gan Kate Rusby (Dydd Mawrth 12 Rhagfyr); clasuron o'r West End a Broadway gan John Owen-Jones (Dydd Iau 14 Rhagfyr) a The Darkness (Dydd Mercher 13 Rhagfyr), fydd yn chwarae Christmas Time (Don’t Let the Bells End)... gobeithio!

Christmas Plum Pudding Bert a Cherry
Dydd Sadwrn 16 – Dydd Mawrth 19 Rhagfyr 2017 – 10.30am a 12.30pm
(dim sioe ar ddydd Sul 17 Rhagfyr 2017)

Yn y cyfamser, bydd plant bach yn dwlu ar Christmas Plum Pudding gan Bert a Cherry (Dydd Sad 16 - Dydd Mawrth 19 Rhagfyr), a hefyd cawn glywed y gyfres arferol o gyngherddau corawl yn perfformio’ch hoff garolau gan gynnwys The Sixteen (Dydd Sul 17 Rhagfyr) gyda Glory to the Christ Child, wedi'u harwain gan eu Harweinydd talentog, Harry Christophers CBE.A beth sy’n well na’r gyfres fale Rwsiaidd i fwynhau hwyl yr ŵyl? Bydd Cinderella, The Nutcracker a Swan Lake (Dydd Mawrth 19 – Dydd Sul 31 Rhagfyr) yn adloniant perffaith cyn y Nadolig i’r teulu neu’n anrheg wych i’ch anwyliaid. 

The Waterboys: Out of All This Blue
Dydd Mawrth 1 Mai 2018, 7.30pm

Sôn am anrhegion, os yw Dad yn mwynhau cerddoriaeth gitâr bydd wrth ei fodd â The Classic Rock Show (Dydd Gwener 26 Ionawr), Paul Carrack (Dydd Gwener 2 Chwefror), The Waterboys (Dydd Mawrth 1 Mai), Level 42 (Dydd Sad 20 Hydref) a Deacon Blue (Dydd Iau 22 Tachwedd)Yn ogystal, mae ysbryd y Starman yn dal i fodoli yn Bowie Experience (Dydd Sad 6 Hydref).

Faith: The George Michael Legacy
Dydd Iau 1 Chwefror 2018, 7.30pm

Dim dyna yw diwedd y teyrngedau gwych wrth i Faith:The George Michael Legacy (Dydd Iau 1 Chwefror), Totally Tina (Dydd Gwener 2 Mawrth), The Whitney Houston Show (Dydd Mercher 18 Ebrill), Rumours of Fleetwood Mac (Dydd Llun 23 Ebrill) a Killer Queen (Dydd Gwener 25 Mai) gynnig anrheg ardderchog i Mam.Os yw hi’n dwlu ar opera, bydd wrth ei bodd â La Traviata gan Verdi (Dydd Llun 22 Ionawr) a Madama Butterfly gan Puccini (Dydd Sul 18 Mawrth)Cawn hefyd berfformiadau solo ardderchog gan seren y byd blŵs-roc, Beth Hart (Dydd Sadwrn 21 Ebrill), cyn-gantores M People, Heather Small (Dydd Iau 17 Mai) a Joan Armatrading (Dydd Mercher 17 Hydref)Ond, os byddai’n well ganddi ymlacio a chanu gyda’r caneuon, beth am roi cynnig ar Sister Act Live Choir (Dydd Sadwrn 17 Chwefror)?

Puccini: Madama Butterfly
Dydd Sul 18 Mawrth 2018, 7.30pm

Mae digon i ddiddanu’r plant hefyd.Bydd anturwyr brwd o bob oedran yn mwynhau Gŵyl Ffilm Mynydd Banff (Dydd Iau 15 Chwefror a Dydd Mawrth 10 Ebrill) a Simon Reeve (Dydd Iau 20 Medi)Gall plant glasoed fwynhau rhyfeddod Vampires Rock (Dydd Sad 27 Ionawr) The Circus of Horrors (Dydd Mawrth 20 Mawrth), a mae ychydig o docynnau ar ôl i weld seren YouTube Markiplier (Dydd Llun 19 Chwefror).

The Overtones & Jay James
Dydd Gwener 9 Chwefror 2018, 8pm

Yn ogystal, cawn glywed un o enwogion mwyaf y sîn gerddoriaeth Wyddelig, Nathan Carter (Dydd Sadwrn 3 Chwefror) a hoff grŵp harmonïau lleisiol y wlad, The Overtones (Dydd Gwener 9 Chwefror)Heb anghofio’r rhai bach, sydd am gael hwyl teuluol dros yr hanner tymor gyda Milkshake!Live (Dydd Gwener 23 Chwefror), a Nain a Taid fydd o bosib yn mwynhau Classic Elvis (Dydd Sadwrn 13 Ionawr), Joe Longthorne (Dydd Iau 29 Mawrth), Cerddorfa Glenn Miller (Dydd Sul 21 Mai) Crazy for Gershwin (Dydd Sul 22 Ebrill).

Anton & Erin: Broadway to Hollywood
Dydd Sul 28 Ionawr 2018, 3pm

David Baddiel: My Family – Not the Sitcom
Dydd Gwener 27 Ebrill 2018, 7.30pm

Mae gennym wledd i bobl sy’n mwynhau Strictly Come Dancing gydag Anton & Erin (Dydd Sul 28 Ionawr), James ac Ola (Dydd Sul 25 Mawrth), Remembering Fred gyda Aljaž a Janette (Dydd Iau 19 Ebrill), Pasha Kovalev ac Anya Garnis (Dydd Sadwrn 2 Mehefin) Kevin a Karen (Dydd Sul 8 Mehefin) yn dangos eu doniau.Hefyd, os ydych am dorri’ch bol yn chwerthin, beth am fynd i weld Richard Herring (Dydd Sad 24 Chwefror), Russell Brand (Dydd Mawrth 27 Chwefror), Katherine Ryan (Dydd Sad 3 Mawrth), Ed Byrne (Dydd Gwener 9 Mawrth), Jonathan Pie (Dydd Sad 31 Mawrth), David Baddiel (Dydd Gwener 27 Ebrill), Jason Manford (Dydd Gwener 11 Mai), Dave Gorman (Dydd Sul 16 Medi) neu Ross Noble (Dydd Mercher 3 Hydref)!

Beth bynnag y byddwch yn ei ddewis, mae Neuadd Dewi Sant wedi sortio’r Nadolig i’r holl deulu!

I gadw seddau, ewch i www.stdavidshallcardiff.co.uk/welsh
neu ffoniwch y Swyddfa Docynnau ar 029 2087 8444 

Ymuno â'r rhestr bostio