Cerddorfa Ffilharmonig Caerdydd Tymor 2017/18

Cerddorfa Ffilharmonig Caerdydd Tymor 2017/18

Neuadd Dewi Sant

Tymor 2017/18 

 

Yn sgil blwyddyn hynod lwyddiannus, mae CERDDORFA FFILHARMONIG CAERDYDD yn ei hôl gyda thymor newydd cyffrous, yn cynnwys clasuron o Rwsia, chwedlau’r byd ffilm a symffonïau ysblennydd.

Mae tymor 2106/17 yn cychwyn yn danllyd ac angerddol gyda Yr Holl Ffordd o Rwsia...(Gwener 20 Hydref). Mae’r gyngerdd wych hon yn rhan o Ŵyl R17, fydd yn digwydd ledled y ddinas. Mae’r Ŵyl yn nodi canmlwyddiant y Chwyldro Rwsia a  bydd yn adlewyrchu ffrwydrad cymdeithasol a diwylliannol yr oes.

Yr Holl Ffordd o Rwsia...
Dydd Gwener 20 Hydref 2017, 7.30pm

Bydd Concerto  Piano Rhif2 Rachmaninov yn ganolbwynt anhygoel i’r rhaglen. Mae’n gyfarwydd i ddilynwyr ffilm fel y gerddoriaeth ramantus sydd yn y ffilm Brief Encounter.  Bydd Cerddor Ifanc y Flwyddyn BBC 2014, sef Martin James Bartlett, yn perfformio gyda Cherddorfa Ffilharmonig Caerdydd mewn perfformiad hudolus o'r clasur hwn.

Bydd yr Adagio gwych o Spartacus Khachaturian, a ddefnyddiwyd yn thema agoriadol i'r gyfres deledu boblogaidd The Onedin Line, hefyd yn cael ei berfformio.Bydd y gyngerdd yn cloi gyda bale lliwgar Stravinksy, Petrushka, gyda’i bypedau byw yn llamu ar hyd y llwyfan!

Noson yn u Pictiwrs 2017:
Dathliad o Gyfansoddwr Star Wars, John Williams
Dydd Gwener 8 Rhagfyr 2017, 7.30pm

Gwerthwyd pob tocyn ar gyfer Noson yn u Pictiwrs 2017 y llynedd. Bydd yn dychwelyd eleni, ar nos Wener 8 Rhagfyr, gyda dathliad o ben-blwydd gwaith John Williams yn 85 oed.Bydd cerddoriaeth o Jurassic Park, ET, Saving Private Ryan a darnau gorau Star Wars i gyd yn cael eu perfformio – rhagflas arbennig ar gyfer Episode VIII, fydd yn cael ei rhyddhau wythnos yn ddiweddarach

Clasuron i Bawb
Dydd Gwner 16 Mawrth 2018, 7.30pm

Bydd symffonïau gan Haydn a Brahms yn swyno cynulleidfaoedd, ac felly hefyd gwaith gwych Vaughan Williams, The Lark Ascending, sy’n cael ei ddewis yn gyson yn hoff ddarn clasurol Prydain, yn Clasuron i Bawb (Dydd Gwner 16 Mawrth).

Mahler Symffoni Rhif 3
Dydd Gwner 15 Mehefin 2018, 7.30pm

Bydd cyfle hefyd i fwynhau Symffoni Rhif 3 Mahler, gwaith hudolus a hyfryd, (Gwener 15 Mehefin), gan roi diweddglo gwych i’r tymor, ar gyfer cerddorfa fawr a dau gorws, gyda’r mezzo-soprano Kate Woolveridge.

O godi tocynnau i’r cyngherddau ill pedwar gewch chi bob tocyn 25% yn rhatach!

Cyfres gyda rhywbeth at ddant bawb, rydym yn edrych ymlaen at eich gweld chi!


TOCYNNAU

Pris Safonol

£6.50  

Stalau (C-E orchrau), Rhengoedd 3 (ôl), 7 (ôl), 9
& 13

£9.50

Stalau (C-E canolfan), Rhengoedd 10, 12, 3 (blaen) ac 7 (blaen)

£11.50

Rhengoedd 2, 8, 11

£17.50

Stalau

£23.50

Rhengoedd 1

Plant dan 16 oed

£6.50 unrhyw ardal

 

16 - 25 oed

£8.50

 

Cyfeillion Neuadd Dewi Sant | Myfyrwyr | Dros 60 | Hawlwyr

£2 oddi ar y ddau bris uchaf

 

Defnyddwyr cadair olwyn
ac un cydymaith 

£6.50 bob tocyn (ar gael ar docynnau unigol yn unig, nid ar y Cynnig Cyfres) 

 

Grwpiau o 10 neu’n fwy

£1.00 oddi wrth bob tocyn

CYNNIG CYFRES

ARCHEBWCH AR GYFER Y PEDWAR CYNGERDD AC ARBED 25%!

*A ffi bostio opsiynol o £1 i docynnau gael eu postio.

I gadw eich seddi, ewch i www.stdavidshallcardiff.co.uk/welsh
neu ffoniwch y Swyddfa Docynnau ar  029 2087 8444 

Ymuno â'r rhestr bostio