Amodau a Thelerau

Cyfleuster ydi Neuadd Dewi Sant a ddarparir gan Gyngor Caerdydd ac y cyfeirir ato o hyn allan fel “Neuadd Dewi Sant”. 

POLISI PREIFATRWYDD

Mai 2018 

Pan fyddwch chi'n archebu tocynnau yn y New Theatre/Neuadd Dewi Sant, byddwch yn rhoi rhywfaint o wybodaeth bersonol sylfaenol i ni er mwyn i ni brosesu eich archeb.

CONTRACT: Mae’r wybodaeth bersonol a rowch i ni i brosesu eich archeb yn cael ei chadw gennym ni er mwyn (a) prosesu a chofnodi’ch taliad a (b) eich hysbysu os oes unrhyw beth yn newid mewn perthynas â’ch archeb - er enghraifft, y perfformiad yn cael ei ganslo. Dim ond er mwyn prosesu taliad y byddwn yn rhannu’r wybodaeth hon gyda’ch banc, neu ag unrhyw un arall os bydd gofyn i ni wneud hynny yn ôl y gyfraith. 

CANIATÂD: Pan fyddwch yn archebu, byddwn yn gofyn i chi hefyd a ydych am dderbyn gwybodaeth am gynyrchiadau a digwyddiadau sydd i ddod yn y New Theatre/Neuadd Dewi Sant. Os byddwch yn rhoi eich caniatâd, yna byddwn yn cysylltu â chi gyda’r wybodaeth hon o dro i dro. Ni fyddwn yn rhannu eich manylion ag unrhyw un y tu hwnt i’r New Theatre/Neuadd Dewi Sant at ddibenion marchnata, ac ni fyddwn yn trosglwyddo’ch gwybodaeth i drydydd parti ac eithrio i hwyluso'r broses o anfon gwybodaeth atoch chi. 

Byddwn yn cynnig y cyfle i chi beidio â derbyn unrhyw wybodaeth yn y dyfodol bob tro y byddwn yn cysylltu â chi, naill ai trwy e-bost neu drwy gysylltu â’n Swyddfa Docynnau ar 029 20 87 84 44.

Cofrestrir Cyngor Caerdydd â Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth rhif Z5832396.

Tweet Tweet

Rydym yn gwneud ein gorau glas i ymorol bod yr holl wybodaeth hyrwyddo a gyflenwir yn gywir ond rydym yn argymell eich bod chithau’n ymorol yn briodol am wirio gwybodaeth o’r fath. Mae Neuadd Dewi Sant yn gwadu’n ffurfiol bob atebolrwydd dros unrhyw golled neu niwed uniongyrchol, anuniongyrchol neu ganlyniadol a achosir os bydd y defnyddiwr yn dibynnu ar unrhyw ddatganiad, gwybodaeth neu gyngor sydd yn neunydd print Neuadd Dewi Sant, ar y wefan neu unrhyw ddeunydd hyrwyddo a gynhyrchir gan y corff.

Mae derbyn eich archeb yn creu cytundeb cyfreithiol gyfrwymol rhwng Neuadd Dewi Sant a chi. Rheolir y cytundeb rhwng Neuadd Dewi Sant a chi a’i ddehongli yn unol â chyfraith Cymru a Lloegr, a bydd gan lysoedd Cymru a Lloegr awdurdod i dorri unrhyw ddadleuon.

O roi eich archeb rydych yn gwarantu bod yr holl fanylion a rowch i ni at ddiben codi tocynnau, archebu neu brynu nwyddau neu wasanaethau yn gywir, mai chi piau’r cerdyn credyd neu ddebyd rydych yn ei ddefnyddio a bod yno ddigon o gyllid i ymorol am gost y tocyn neu’r gwasanaeth. Os oes yna unrhyw newidiadau yn y manylion a rowch chi eich cyfrifoldeb chi ydi rhoi gwybod i ni.

Does dim dal y bydd tocynnau bob amser ar gael.

Mae gan staff Neuadd Dewi Sant awdurdod i wrthod gadael i chi fynd i mewn i’r oedfan ac maen nhw’n cadw’r hawl i wneud hynny os ydi’ch ymddygiad chi, yn eu barn ddiamod, cyfryw a’i fod yn debygol o darfu neu aflonyddu ar bobol eraill sy’n dod i’r Neuadd. Ceidw Neuadd Dewi Sant hefyd yr hawl i roi terfyn ar eich caniatâd i fod yn yr adeilad a’ch troi allan.

Rhaid i bob aelod o’r gynulleidfa feddu ar docyn dilys. Ni fydd tocynnau wedi’u newid neu eu difwyno yn ddilys.

Dydi cadarnhad derbyn eich archeb trwy e-bost ddim yn gwarantu gwerthiant y tocyn (achosion rhyngrwyd yn unig).
Cofiwch wirio eich tocynnau gan nad oes bob amser modd cywiro camgymeriadau.

Ceidw Neuadd Dewi Sant yr hawl i newid neu amrywio’r perfformiad / digwyddiad oherwydd digwyddiadau neu amgylchiadau’r tu hwnt i’n rheolaeth heb orfod ad-dalu arian na newid tocynnau. Dydi hyn ddim yn effeithio ar eich hawliau statudol.

Dydi Neuadd Dewi Sant ddim yn gallu gwarantu cwrdd â’ch disgwyliadau personal chi gan berfformiwr neu berfformiad. Mae hyn am fod disgwyliadau personal a beth sydd at ein dant ni yn ddi-ben-draw o amrywiol. At hynny, dydi Neuadd Dewi Sant ddim yn gallu gwarantu na chewch chi mo’ch pechu gan iaith, ymddygiad neu olwg unrhyw berfformiwr. Rydym yn argymell eich bod yn holi yn y Swyddfa Docynnau cyn codi tocyn os oes gennych unrhyw bryderon ynghylch natur perfformiad. Bydd polisi ad-dalu Neuadd Dewi Sant ar waith.

Mae Neuadd Dewi Sant yn rhoi gwerth ar ymroddiad mynychwyr theatr yn codi tocynnau’n fuan ac mae’n cydnabod bod argyfyngau weithiau’n nadu i bobol ddod. Mae’r ddau wasanaeth sy’n dilyn ar gael:

Ceir ffeirio tocynnau am unrhyw ddigwyddiad arall am yr un pris neu fwy (o dalu’r gwahaniaeth).  Rhaid i docynnau ddod i law yn y Swyddfa Docynnau dim hwyrach na 48 awr cyn y perfformiad gwreiddiol. Mae yna dâl o £2.00 per ticket am y gwasanaeth yma. Os bydd angen tocynnau dyblyg, codir tâl o £2.50 y tocyn am y gwasanaeth yma. (Gwaetha’r modd, ni ellir ffeirio nac ailwerthu yn Neuadd Dewi Sant docynnau a godir trwy Ganolfan Gofal Cwsmeriaid y BBC neu asiantaethau allanol).

Fel arall, derbynnir tocynnau i’w cynnig i’w hailwerthu ar yr amod benodol mai tocynnau Neuadd Dewi Sant sydd heb eu gwerthu a werthir gyntaf. Cynigir y gwasanaeth ailwerthu yma ar yr amod eich bod chi’n derbyn na dydi Neuadd Dewi Sant ddim yn gwarantu y bydd unrhyw docyn a gynigir ar gyfer ei ailwerthu yn cael prynwr newydd. Mae’r gwasanaeth yma ar gael ar yr amod llwyr eich bod yn dychwelyd y tocynnau gwreiddiol yn gyntaf i’r Swyddfa Docynnau a’ch bod yn cytuno ymlaen llaw i dalu cost dros ben o 20% am y gwasanaeth ar werth unrhyw docyn a werthir.

Ar wahân i’r ddau wasanaeth uchod neu os canslir perfformiad, does dim ad-daliadau neu ran ohonyn nhw ar gael ar ôl i chi godi tocyn.

Mae meddu ar docyn dilys yn rhoi hawl i’r deiliad fynd i’r awditoriwm yn union cyn dechrau’r perfformiad ond unwaith y bydd y perfformiad wedi dechrau mae’r canlynol ar waith.  Er mwyn peidio â tharfu ar y gynulleidfa a’r perfformwyr, ni chaiff hwyrddyfodiaid fynd i mewn i’r awditoriwm tan yr egwyl. Efallai y bydd modd dilyn y perfformiad ar deledu cylch cyfyng yn y barrau.

Ni chaniateir ar unrhyw gyfrif wneud recordiadau na ffotograffiaeth, gyda neu heb fflach.

Rhaid i chi ddiffodd cyfleuster canu eich ffôn symudol pan fyddwch chi yn yr awditoriwm neu’n agos ato. Yn yr un modd, rhaid i chi beidio â siarad ar ffôn symudol pan fyddwch chi yn yr awditoriwm neu’n agos ato. Mewn argyfwng gewch chi siarad ar ffôn symudol yn ymyl y Swyddfa Docynnau ond ar wahân i hynny rhaid i chi wneud hynny’r tu allan i’r oedfan.

Dylech ddwyn unrhyw gwynion am y sioe neu’r olygfa o’r seddi i’r Rheolwr ar Ddyletswydd yn ddi-oed, cyn neu yn ystod y perfformiad.

Ceidw Neuadd Dewi Sant yr hawl iddi hi ei hun neu drydydd person wneud ffilmio a recordio sain cyffredinol yn yr adeilad neu ei gyffiniau. Mae codi tocyn yn golygu bod y deiliad yn cydsynio i gael tynnu ei lun neu recordio ei lais ac i’r defnydd masnachol o ffilm neu recordiad o’r fath heb unrhyw hawl ar daliad. Rhaid i unrhyw ddeiliad tocyn sy’n gwrthwynebu cael tynnu ei lun neu ei recordio roi gwybod i’r Rheolwr ar Ddyletswydd cyn i’r perfformiad ddechrau.

Cynigir GOSTYNGIADAU PLANT i bobol ifanc os ydyn nhw’n dal yn yr ysgol. Ddylech chi ddim tybio bod caffaeledd gostyngiadau plant yn golygu y byddech chi’n cael y sioe’n addas ar gyfer pawb yn y categori yma. Gan fod barnau rhieni/gwarcheidwaid o ran beth sy’n addas ar gyfer ystod oedran neilltuol yn amrywio gryn dipyn, rhaid i chi eich argyhoeddi’ch hun o ran addasrwydd sioe o holi’n gyntaf yn y Swyddfa Docynnau.

Dydi rhai perfformiadau ddim yn addas ar gyfer plant bach iawn (o dan ddwyflwydd). Er eich cysur chi eich hun a chyngherddwyr eraill byddem yn argymell i blant o dan ddwyflwydd beidio â mynd i berfformiadau a hysbysebir ar gyfer grwpiau oedran penodol.

A ninnau’n oedfan adloniant trwyddedig rydym yn hybu yfed cyfrifol.  Os bydd unrhyw gwsmeriaid yn dangos arwyddion o feddwdod, ymosodedd neu ymddygiad gwrthgymdeithasol, oherwydd diod neu rywbeth arall, cânt eu hebrwng o’r adeilad ac ni chynigir dim ad-daliadau tocynnau.

Ni chaniateir na smocio na defnyddio sigaréts electronig yn unman yn yr adeilad.

Mae cynulleidfaoedd weithiau’n gorfod mynd drwy fesurau diogelwch felly cofiwch gyrraedd yr oedfan mewn da bryd. Diolch i chi ymlaen llaw am eich cymwynas a’ch amynedd.

Mae arweinwyr grwpiau ieuenctid (gan gynnwys partïon ysgol) yn gyfrifol am ymddygiad eu parti. Dydi Neuadd Dewi Sant ddim yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb am oruchwylio pobol ifanc yn eich gofal chi. Rhaid i chi ymorol bod digon o staff goruchwylio yn dod gyda’r parti. Gofynnir i’r parti neu rai ohonyn nhw adael y theatr os tarfir ar y perfformwyr neu’r gynulleidfa.

Mae ein gwefannau a’n Hysbysebion Swyddogol yn cael eu rheoli, eu cynhyrchu a’u gweithredu gan Neuadd Dewi Sant o’n swyddfeydd yn y Deyrnas Unedig. Dydi Neuadd Dewi Sant ddim yn honni bod y deunydd a’r wybodaeth a ddangosir ar ein gwefan neu sydd ar gael drwy ein gwefan yn addas nac ar gael i’w defnyddio mewn Gwledydd eraill y tu allan i’r Deyrnas Unedig.

Mae Neuadd Dewi Sant yn gyfleuster a ddarperir gan Gyngor Caerdydd ac o hyn ymlaen byddwn yn cyfeirio ati fel “Neuadd Dewi Sant”

CWCIS

Ymuno â'r rhestr bostio