Verdi Aida

Ag ynddi’n sêr y soprano o Ffrances Olga Perrier a’r soprano Alyona Kistenyova yn rhan Aida a Zarui Vardanean *, yn rhan Amneris.

Daw Aida, y fwyaf mawreddog o blith holl operâu Ellen Kent, yn ei hôl i’r Neuadd mewn cynhyrchiad traddodiadol newydd trawiadol ac iddo set newydd aruthrol a godwyd gan Set-Up Scenery yng ngwledydd Prydain, a gododd setiau hefyd i’r Royal Opera Covent Garden.

Yn Aida, gwelwn ysblander yr Aifft wrth ymyl mawredd Colosseo Rhufain a chyfarwyddyd Ellen Kent dan ddylanwad dramâu Ewripides yng Ngroeg yr henfyd ac yn symboleiddio gafael crefyddol grymus offeiriaid yr Aifft.Hanes athrist rhyfel, gwenwyn a dialedd sydd yma - ac wrth ei graidd cariad dan dynged y gaethferch hardd o Ethiopiad, Aida, a’r arwr o’r Aifft, Radames - a gaiff fywyd o’r newydd mewn cynhyrchiad sy’n rhoi llwyfan i un o’r darnau mwyaf o gerddoriaeth a sgrifennodd Verdi erioed ac ynddo’r ariâu adnabyddus “Celeste Aida”, “Ritorna Vincitor” a’r “Ymdeithgan Orfoledd” glasurol sy’n cynnwys dawns deml, rhaeadrau o aur pefriol a pherfformwyr tân syfrdanol.

Canir yn Eidaleg gydag uwchdeitlau Saesneg.

*Gallai’r cast newid

 
Pris Safonol £15.00 | £19.00 | £23.50 | £27.00 | £32.00
Cyfeillion Clwb Ellen Kent a Chyfeillion Neuadd Dewi Sant Gostyngiad o £5 ar bob tocyn o’r 3 chategori drutaf hyd at uchafswm o 4 tocyn (ni ellir manteisio ar hyn ochr yn ochr ag unrhyw gynnig arall).
Dan 16 oed | Myfyrwyr | Hawlwyr | Pobl anabl ag un cydymaith Hanner Pris
Dros 60 £2.00 yn llai
Grwpiau 10-19 £1.00 oddi wrth bob tocyn
Grwpiau 20+ £2.00 oddi wrth bob tocyn

 

Yn ogystal â Thâl Gwasanaeth Tocynnau o £3.95 fesul trafodyn a ffi postio dewisol o £1.00 ar gyfer postio tocynnau.  Gwybodaeth llawn am Dâl Gwasanaeth Tocynnau cliciwch yma

 

 
Bwciwch Nawr
 

“Aida has one of the most imposing sets you will see on an operatic stage” Manchester Evening News

“Aida was thrillingly portrayed by the French soprano, Olga Perrier” Oxford Times Spring 2014

“Olga Perrier, the French soprano, who took the role of Aida was simply wonderful with a brilliant radiant voice and acting talent she gave the role all the intensity, vitality and passion that it needs. What a discovery Ellen Kent has made!” Oxford Prospect Spring 2014