Taith y Dreamboys ym Mhrydain yn 2018

  • Oedolion yn unig
 

Mae’r Dreamboys, sioe orau oll gwledydd Prydain ar dull Magic Mike, yn eu holau ac yn boethach nag erioed ac i’w canlyn sioe newydd sbon danlli grai a thaith yng ngwledydd Prydain ar gyfer 2018.

Does dim dwywaith nad ydi’r Dreamboys yn bennaf sioe stripio dynion gwledydd Prydain, i’r dim i noson allan i’r c’wennod gyda’ch ffrindiau i gyd. Yn ddiamau eu stondin ydi’r act stripio dynion enwocaf a gynhyrchodd gwledydd Prydain erioed. Yn sgìl ymddangos yn westeion ar rai o sioeau teledu mwyaf gwledydd Prydain megis The X Factor, Britain's Got Talent, Celebrity Big Brother, Loose Women, This Morning, Geordie Shore a The Only Way Is Essex, a theithiau Byd-eang enfawr a werthodd bob tocyn, does ryfedd i’r Dreamboys gael y gair o fod yr unig grŵp stripio dynion mewn hanes i ennill bri enwogion.

Os ydych chi ar drywydd y noson allan i’r c’wennod orau fyw fyd bosib yng ngwledydd Prydain, raid i chi chwilio ddim pellach na’r palffod stripio anhygoel yma. Sioe ddwyawr yn fynd i gyd o’i dechrau i’w diwedd a’i llond o hogiau fydd yn cael gennych grefu am fwy.

Dyma sioe sy’n fynd i gyd, yn heigio gan Gerddoriaeth, Hud a Miri digon i fynd â’ch gwynt chi –
rhy dda i’w cholli, heb flewyn ar dafod.

Codwch eich Tocynnau’n awr cyn iddi fynd yn rhyw hwyr.

 
 Pris Safonol  £19.50 | £24.50 | £28.50
 Cyfeillion Neuadd Dewi Sant | Myfyrwyr | Dros  60  | Hawlwyr | Pobl anabl ag un cydymaith  £2 yn llai
 Grwpiau (Ffoniwch y Swyddfa Docynnau ar 029 2087 8443)  Prynwch 10 tocyn i gael yr  11eg am ddim

A ffi bostio opsiynol o £1 i docynnau gael eu postio.

 
Bwciwch Nawr
 
18.30 Bar yn agor                                                                 
20.00 DECHRAU
21.00 Egwyl
22.20 DIWEDD

NODER: Amseroedd bras - gallant newid.