Taith y Byd Gŵyl Ffilmiau Mynydd BANFF

Dewch i brofi noson o ffilmiau byrion rhyfeddol o’r ŵyl ffilmiau mynydd fwya’i bri yn y byd.   

Gewch chi ddilyn cyrchoedd rhai o anturiaethwyr mwyaf anhygoel yr oes sydd ohoni, gweld ffilmiau syfrdanol o chwaraeon llawn mynd gwefreiddiol a chael eich ysbrydoli gan ddarnau pryfoclyd a ffilmiwyd o bedwar ban byd.

Eleni mae yna ddwy noson fydd yn tanio eich awch am antur, mynd a theithio.
I chi gael yr antur ar ddwywaith dewch ar y ddwy noson i weld dwy raglen o ffilmiau cwbl wahanol. Mae disgowntiau dwy noson ar gael yn y swyddfa docynnau (heb fod ar gael ar lein).

Digwyddiadau cyffrous rhy dda i’w colli a gwobrau am ddim i’w canlyn!                                  

Ewch i www.banff-uk.com i gael rhagor o fanylion.

 
Pris Safonol £14
Plant dan 16 oed | Myfyrwyr | Dros 60 | Hawlwyr |
Pobl anabl ag un cydymaith
£1.50 oddi wrth bob tocyn
Cynnig cynnar  £12 (tan 15 Tachwedd 2017)

Tocynnau i’r ddwy noson 

£24
Grwpiau 6+ (Ffoniwch y Swyddfa Docynnau ar 029 2087 8443) £1.50 oddi wrth bob tocyn

A ffi bostio opsiynol o £1 i docynnau gael eu postio.

 
Bwciwch Nawr