ZOG

Freckle Productions a Rose Theatre Kingston yn cyflwyno
ZOG
Gan Julia Donaldson ac Axel Scheffler
 

Yn fawr ei faint ac yn frwd ei anian, mae Zog yn sâl eisiau ennill seren aur yn ysgol Madam Draig, lle mae dreigiau’n dysgu popeth mae ar ddreigiau angen ei wybod.  Mae Zog yn gwneud ei orau glas, yn mynd dros ben llestri efallai, ac mae’n cloncian, yn llosgi ac yn rhuo mynd drwy’r flwyddyn gyntaf, yr ail a’r drydedd. 

Wrth lwc, mae’r Dywysoges Perl lew yn ei glytio’n barod i wynebu ei her fwyaf hyd hynny... gornest gyda Gadabout Fawr! 

Mae Zog poblogaidd Julia Donaldson ac Axel Scheffler yn bywiogi drwyddo yn addasiad hudol Mike Shepherd (sylfaenydd a Chyfarwyddwr Artistig Kneehigh) gyda sgôr werin odidog Johnny Flynn (actor a chanwr-gyfansoddwr arobryn gyda The Sussex Wit) a chwaraeir gan gerddorion byw.   Mae dyluniad Katie Sykes yn codi’r llyfr oddi ar y tudalennau ac yn creu byd real a ffantastig. Gan y tîm y tu ôl i Tiddler and Other Terrific Tales a Tabby McTat, mae Zog yn addo’n deg bod yn hen hwyl a hanner i bob oed.

© Julia Donaldson and Axel Scheffler


Clodydd sioeau cynt Freckle Productions:

★★★★ 'A delight from start to finish. A room of children laughing hysterically, all totally mesmerised by the action.' Time Out 

★★★★★   'Brings such joy to children and adults alike. The show was so captivating that no one wanted to miss a moment' The Spy in the Stalls 

 ‘TO CALL THIS SHOW LIVELY WOULD BE A WHOPPING UNDERSTATEMENT. Packed with gleeful songs and jolly good fun.’ The Guardian 

★★★★ ‘Zesty and delightful. A clever compelling treat’ Independent

 
Oedolion £15.50
Plentyn £13.50
Defnyddwyr cadair olwyn ac un cydymaith (Ffoniwch y Swyddfa Docynnau ar 029 2087 8444) £13.50 pob tocyn
Grwpiau Ysgolion 10+ (Ffoniwch y Swyddfa Docynnau ar 029 2087 8444) £10 pob tocyn;

Cynigir 1 tocyn am ddim am bob 10 tocyn a archebir ar gyfer athrawon
(perfformiad dydd Gwener yn unig)

Grwpiau 10+ (Ffoniwch y Swyddfa Docynnau ar 029 2087 8444) £12.50 pob tocyn

 A ffi bostio opsiynol o £1 i docynnau gael eu postio.
Am docynnau Hynt, cysylltwch â’r Swyddfa Docynnau ar 02920 878444.

 
Bwciwch Nawr