The Ultimate Eagles

Yn syth ar ôl cychwyn dan ganu yn Ewrop, Awstralia a Seland Newydd, mae’r Ultimate Eagles yn dal i fynd ar eu taith newydd sbon danlli grai, ‘History World Tour’, yma yng ngwledydd Prydain.

Mae’r Ultimate Eagles yn cyflwyno hanes band ymhlith goreuon y byd, yn perfformio hits clasurol ac at hynny, am y tro cyntaf erioed, fersiynau byw o’u halbwm ysgubol o lwyddiannyus “Bare Bones Unplugged”. Cyn dod i ben y daith, byddant wedi teithio can mil o filltiroedd: digon i gylchfordwyo’r byd dros bedair gwaith!

Does yna’r un sioe ar wyneb daear sy’n ail-greu cerddoriaeth y Chwedl Americanaidd mor gywir ac â’r fath barch â’r Ultimate Eagles, ac mae eu gweld ar y cyfryngau ar lein dros ddeng miliwn o weithiau yn dyst i’w poblogrwydd drwy’r gwledydd a’u safle a fawr chwenychir yn “sioe Eagles Fwya’r Byd”.

Dan berfformio’n fyw bethau prin a chlasuron werthodd fel slecs, bydd ‘The History World Tour’ yn rhoi i chi’r profiad Gorau Fyw Fyd Bosib o’r Eagles yn fyw, a gyflwynir gan gerddorion gyda goreuon y byd a dreuliodd eu gyrfa ar ei hyd yn y rheng flaen yn ymddangos ochr yn ochr ag artistiaid megis Queen, Iron Maiden, Status Quo, Journey, Van Morrison, The Royal Philharmonic Orchestra, Stevie Wonder, Paul McCartney, Ringo Starr, Cliff Richard, John Legend ac, wrth gwrs, yr Eagles eu hunain.

 
Pris Safonol £25

A ffi bostio opsiynol o £1 i docynnau gael eu postio.

 
Bwciwch Nawr