The Classic Rock Show

Yn dathlu Gitaryddion Mwya’r Byd  

‘The classic rock fan’s ultimate live juke box!’

Yn dyst i boblogrwydd mwyfwy cerddoriaeth Roc Clasurol, daw’r sioe fyw fawr ei chlod gan y beirniaid ‘The Classic Rock Show’, yn ei hôl i wledydd Prydain ym misoedd Ionawr a Chwefror 2018 i roi i ni ‘Cewri’r Gitâr – Taith y Byd 2018', cynhyrchiad byw newydd anhygoel, yn dathlu gitaryddion mwya’r byd.

I dalu teyrnged i lawer o gewri gitâr yr oesoedd, mae cerddorion The Classic Rock Show sydd gyda goreuon y byd yn cythru mynd drwy funudau gyda’r goreuon mewn Roc Clasurol, yn dathlu perfformiadau chwedlonol gan wroniaid fel Jimi HendrixJimmy Page (Led Zeppelin), Mark Knopfler (Dire Straits), Walter Becker (Steely Dan) , Eric ClaptonAngus Young (AC/DC), Brian May (Queen), Joe Walsh (The Eagles), Paul Kossoff (Free), Peter Green (Fleetwood Mac) and Pete Townsend (The Who) a llawer mwy at hynny.

Perfformir yn fanwl gywir nodyn am nodyn, gan roi bywyd o’r newydd ar lwyfan i’r recordiadau gwreiddiol eiconig a ddiffiniodd oes, â sioe sain a goleuo gystal bob tamaid.

Yn anthem ar ôl anthem, yn riff ar ôl riff, yn gord pŵer ar ôl cord pŵer – mae ‘The Classic Rock Show’ yn mynd â chi ar daith gerddorol drwy ddwyawr a hanner o hwyl stompio traed, yn dod i ben mewn deuawd gitâr digon i’ch llorio sy’n bendifaddau’n rhy dda i’w golli.

Gem o sioe roc – dolur gwddw does dim dau!

 
 Pris Safonol  £25.50 

 Nifer gyfyngedig o docynnau Cylch Aur drutach – rhowch ganiad i’r Swyddfa  Docynnau ar 02920 878444.

 

Mae yna ffi bostio ddewisol o £1 os hoffech i’r tocynnau gael eu postio.



 
Bwciwch Nawr