Some Guys Have All the Luck

Some Guys Have All the Luck
Stori Rod Stewart

Dyma gynhyrchiad theatr newydd sbon danlli grai sy’n dathlu bywyd a gyrfa Rod Stewart, un o eiconau mwyaf cerddoriaeth roc. Yn serennu Paul Metcalfe ac yn cynnwys band byw diguro sy’n gywion o frîd, mae’r sioe’n mynd â’r gynulleidfa drwy stori anhygoel Rod, o’i dras werinol yn dysgu ei grefft yng nghlybiau rhythm a’r felan y chwe degau drwodd i fri aruthrol drwy’r byd yn grwn a gwerthiannau recordiau mwy na deucan miliwn a hanner!

Adroddir hanner cynta’r sioe, sy’n olrhain hanes Rod yn dod i enwogrwydd o glybiau rhythm a’r felan y chwe degau drwodd i lwyddiant drwy’r byd yn grwn ddechrau’r saith degau. Mae’n cynnwys caneuon o’r rhan gyntaf o yrfa Rod, yn eu plith Handbags & Gladrags, In A Broken Dream, Stay With Me, Ooh La La a Wear It Well.  Mae hefyd yn cynnwys adran acwstig. 

Mae ail hanner y sioe yn dal holl gyffro ac egni un o gyngherddau Rod Stewart, yn llawn o’r un ddawn dyn sioe jarfflyd, cyfle i’r gynulleidfa gymryd rhan a hwyl bur. Mae’n heigio gan hits fel Maggie MaySailing, Baby Jane, Da Ya Think I'm Sexy, Tonight's The Night, The First Cut Is The Deepest and You're In My Heart – ag enwi ond dyrnaid!  Ac mae Paul yn taflu ei stand meic o gwmpas, yn dod allan i’r gynulleidfa a hyd yn oed yn cicio cawod o beli troed wedi’u llofnodi i’r dyrfa!

 

 
Pris Safonol £23.50
Cyfeillion Neuadd Dewi Sant | Plant dan 16 oed | Myfyrwyr | Dros 60 | Hawlwyr | Pobl anabl ag un cydymaith £2 yn llai
Clwb Selogion Smiler £5 yn llai
Grwpiau o 10 neu’n fwy £2 oddi wrth bob tocyn

A ffi bostio opsiynol o £1 i docynnau gael eu postio.
*Dim ond un gostyngiad ar gyfer pob tocyn. Rhaid dangos prawf o’r hawl wrth gasglu’r tocyn.

 
Bwciwch Nawr