Paul Carrack mewn Cyngerdd

Y brodor chwedlonol o Sheffield, y cyfansoddwr caneuon a chyn-flaenwr Ace, Squeeze a Mike & The Mechanics ar daith unwaith eto ddechrau 2018 gyda’i fand, yn perfformio mewn tair oedfan ar hugain ledled gwledydd Prydain. 

Mae gan Paul ôl-gatalog o hits er ei glod gan gynnwys “How Long”, “Tempted” a “The Living Years”  ac mae ei lais dihafal eneidfawr yn dynfa ddiwrthdro i’w filiynau o selogion drwy’r byd yn grwn. Perfformiwyd ei ganeuon anhygoel gan rai o’r enwau mwyaf ym myd cerdd gan gynnwys yr Eagles, Diana Ross a Tom Jones, mae galw mawr amdano’n barhaol yn gerddor sesiwn wrth yr allweddell, a recordiodd a theithio gydag Elton John, Van Morrison, Roger Waters a BB King, ac yn fwyaf diweddar ar daith y byd Eric Clapton.

Dyma’r ‘Dyn â’r Llais Euraid’ chwedl y BBC a does dim dau nad ydi Paul yn allweddol yn hanes pop Prydain, yn ddawn gerddorol gron. Fel gŵyr ei selogion triw o’r gorau, mae un o sioeau Paul Carrack yn rhywbeth arbennig iawn yn wir.

 
Cylch Aur (seddi gorau) £41.00
Pris safonol £34.00

 

A ffi bostio opsiynol o £1 i docynnau gael eu postio.

 
Bwciwch Nawr