Owen Money's Juke Box Heroes II

Yn dilyn llwyddiant ysgubol Jukebox Heroes Owen Money yn 2016, dyma Owen Money yn ei ôl ac i’w ganlyn sioe eto’n heigio gan ddawn yn cynnwys cerddoriaeth ei sioeau poblogaidd dros y Sul ar BBC Wales; ac wrth gwrs ei fath dihafal o gomedi a’r ‘Cellwair Cymreig’!

Bydd ei fand ffantastig ‘The Travelling Wrinklies’ yn ymuno ag Owen ar lwyfan i gyfeilio i’r pedwar eicon o’r chwe degau a’r saith degau fydd yn rhoi bywyd o’r newydd i gerddoriaeth ac angerdd eu ‘Harwyr’!

Yn cychwyn â Sami Broad swynol fel Karen Carpenter fythgofiadwy. 

Wedyn mae David Rhys-Morris yn talu teyrnged i’r chwedl Neil Sedaka.

Bydd Alex John yn portreadu môr o lais neilltuol Frankie Valli a chyda’m bach o help ni fydd seiniau’r ‘Four Seasons’ yn mynd dros gof. 

Yn olaf, Li Harding ddigon o ryfeddod yw’r Fonesig Shirley Bassey ddihafal a fydd, does dim dau, yn ‘rhoi cychwyn ar y parti ’ma’!

 
 Pris Safonol  £20.50

 Cyfeillion Neuadd Dewi Sant | Plant dan 16 oed | Myfyrwyr | Hawlwyr | Dros 60 | Pobl anabl ag un cydymaith

 £2 oddi wrth  bob tocyn

 Grwpiau 10+ (Ffoniwch y Swyddfa Docynnau ar 029 2087 8443)  £2  oddi wrth bob tocyn

A ffi bostio opsiynol o £1 i docynnau gael eu postio.

 
Bwciwch Nawr
 
18.00  Bars open
19.30 START 
tbc Interval
22.00 FINISH                                                                     

PLEASE NOTE: Running times are approximate and supplied for guidance only.  They may be subject to change.