Level 42

  • Rhaid i blant dan 14 oed fod gydag oedolyn
 

Yn Cynnwys y Gwesteion Arbennig - The Blow Monkeys

Mewn gyrfa sy’n ymestyn dros agos i bedwar degawd, gwerthodd Level 42 fwy na deng miliwn albwm ar hugain ac mae eu hôl-gatalog trawiadol yn cynnwys yr hits ysgubol Lessons In Love, Something About You, Running In The Family ac It’s Over.  Bellach, wedi dod i ben taith dan ei sang 37 o oedau yng ngwledydd Prydain ac Ewrop yn 2016,  maen nhw’n dod â’u taith Eternity i’r Neuadd.

Meddai Mark King, y blaenwr a’r canwr gitâr bas: ‘We can’t wait to get on the road again in the UK in 2018, it’s always such a hoot, and our fans are always a joy to play to. We’ll be playing all our best material as well as some new tracks, and maybe a few deeper cuts too. We are also very happy to welcome The Blow Monkeys as special guests for the tour, how cool is that?!’

Bydd y gwesteion arbennig The Blow Monkeys yn tretio’r cynulleidfaoedd i hits yn cynnwys ‘Digging Your Scene’, ‘It Doesn’t Have To Be This Way’ a’u gwedd newydd ar ‘You Don’t Own Me’ Lesley Gore oedd ar drac sain Dirty Dancing 1987. Rhyddhaodd y band albwm newydd sbon danlli grai The Wild River yn gynharach y mis yma.

 
Pris Safonol £31.50 | £37.00
Defnyddwyr cadeiriau olwyn ynghyd ag un cydymaith £31.50 pob tocyn

A ffi bostio opsiynol o £1 i docynnau gael eu postio.

 
Bwciwch Nawr