ELO Again

ELO Again – Sioe Deyrnged Cerddorfaol Arbennig

Mae ELO AGAIN yn rhoi blas dramatig i chi o berfformiadau’r band gwreiddiol yn eu dydd. Mae’r holl brofiad yn ail-fyw cyngerdd proffesiynol ELO gyda sioe sain, goleuadau ac effeithiau gweledol.

Caiff yr holl ganeuon poblogaidd eu perfformio – LIVIN’ THING, SWEET TALKIN’ WOMAN, 10538 OVERTURE, WILD WEST HERO, THE DIARY OF HORACE WIMP, TELEPHONE LINE, TURN TO STONE a llawer mwy.

Mae ELO AGAIN yn cyflwyno effaith lawn trefniant cerddorfaol ELO, yn llawn dyfnder a thôn ac maen nhw’n sicr yn gwybod sut i ddifyrru, gyda'r holl ganeuon.  Mae sieloau byw a'r feiolin las yn sicrhau taw'r sioe hon yw'r deyrnged orau erioed i ELO a'r mwyaf gwreiddiol yn gerddorol. Mae eu fersiwn nhw o MR BLUE SKY yn llawn angerdd a brwdfrydedd a bydd y gynulleidfa gyfan yn siŵr o ddawnsio, clapio a chanu.

Mae A NIGHT OF ELO a berfformir gan ELO AGAIN yn ail-greu oes Roc Glam yn yr 21ain ganrif ac yn talu teyrnged i ganeuon arbennig Jeff Lynne. Byddwch yn mwynhau steil roc symffonig unigryw ELO a chlywed rhai o ganeuon roc a phop clasurol bythgofiadwy ein cenhedlaeth. 

 
Pris Safonol £23.50

 

Yn ogystal â Thâl Gwasanaeth Tocynnau o £3.95 fesul trafodyn a ffi postio dewisol o £1.00 ar gyfer postio tocynnau.  Gwybodaeth llawn am Dâl Gwasanaeth Tocynnau cliciwch yma 

 
Bwciwch Nawr