Deacon Blue

To Be Here Someday 
Dathlu Deng Mlynedd ar Hugain o Deacon Blue

Mae Deacon Blue wrth eu boddau o gyhoeddi eu Taith 2018, ‘To Be Here Someday’, sy’n dathlu deng mlynedd ar hugain o Deacon Blue. 

Bu’r pum mlynedd aeth heibio’n dipyn o ddadeni i’r band, ac yn don doreithiog o greadigedd a epiliodd dri albwm newydd y naill yn syth ar ôl y llall, gan gynnwys yr albwm stiwdio o’r flwyddyn 2016 ‘Believers’, eu halbwm uchaf yn y siartiau ers tair blynedd ar hugain. Taith ydi ‘To Be Here Someday’ sy’n dathlu gyrfa’r band ar ei hyd, ac arni byddant yn chwarae rhai o’u sioeau mwyaf erioed. 

Mae’r daith drwy hyd a lled gwledydd Prydain ac Iwerddon yn cynnwys mynd yn ôl i Hammersmith Apollo eiconig Llundain (am y tro cyntaf ers deng mlynedd), yn ogystal â thair sioe arena yn Lerpwl, Aberdeen a’u milltir sgwâr Glasgow, yn yr SSE Hydro, a fydd yn ddi-os yn ddiweddglo gwefreiddiol y daith. 

Llinell o’u sengl eiconig ‘Dignity’ ydi teitl y daith ‘To Be Here Someday’ ac mae’n crynhoi gobeithion y band, eu hawch a’u llawenydd o allu rhannu â’u selogion y caneuon mwyaf o’u gyrfa ar ei hyd. Fel sydd bellach yn nodwedd ar eu sioeau byw, byddant yn cyflwyno rhestr set fydd yn newid o noson i noson ond a fydd bob amser yn llawn Deacon Blue clasurol.

 

 
 Pris Safonol  £31.50 a nifer o docynnau cylch aur drutach ar gael.

A ffi bostio opsiynol o £1 i docynnau gael eu postio.

£31.50 a nifer o docynnau cylch aur drutach ar gael.

 
Bwciwch Nawr