Dave Mason

Dyma’r Prydeiniwr Dave Mason, sy’n anwyw ym myd roc, yn mynd yn ei ôl mewn amser (gyda’i fand) i ddechrau’i yrfa gyda Traffic yn ogystal â pherfformio caneuon a lansiodd ei yrfa solo dros hanner can mlynedd yn ôl. Yn fand gyda Steve Winwood  y cychwynnodd Traffic (pan oedd y ddau’n ddim ond glaslanciau) a bychan a wydden nhw y câi eu cerddoriaeth y fath argraff flynyddoedd maith wedyn. Yn dilyn ei stem gyda Traffic, aeth Dave rhagddo i yrfa ysgubol o lwyddiannus yn gyfansoddwr caneuon, yn gitarydd ac yn artist solo.Yn 2004 fe’i gorseddwyd yn Oriel Enwogion Roc a Rôl.

Mae Dave yn enwog am hits fel Feelin’ Alright (a recordiwyd gyntaf gan Traffic ym 1968 wedyn gan Joe Cocker ym 1969), Only You Know and I Know a Hole in My Shoe a pherfformiodd a recordio gyda chwedlau megis Paul McCartney, George Harrison, y Rolling Stones, Jimi Hendrix, Eric Clapton, Michael Jackson, Stevie Wonder, David Crosby, Graham Nash, Derek and the Dominos, a Delaney a Bonnie. Yn ystod y chwe degau roedd ei gyfraniad i’r byd cerddoriaeth boblogaidd a’i ran ynddo yn enfawr.

 
Pris Safonol £32.50


Yn ogystal â Thâl Gwasanaeth Tocynnau o £3.95 fesul trafodyn a ffi postio dewisol o £1.00 ar gyfer postio tocynnau.  Gwybodaeth llawn am Dâl Gwasanaeth Tocynnau cliciwch yma

 

 
Bwciwch Nawr
 

Mae sioe Dave Mason, Traffic Jam, yn cynnwys hits a thraciau o albymau eiconig Traffic, straeon gan Dave, deunydd newydd a phigion o gerddoriaeth glasurol Mason, a dyma wledd i holl selogion roc a diwylliant y 60au – i gael cip agosatoch ar gyfansoddwr caneuon dawnus, canwr neilltuol, ac at hynny gitarydd meistrolgar.

Ers ei lansio yn 2014, mae sioe Traffic Jam Mason yn cael clod y beirniaid o ben bwygilydd – yn yr Unol Daleithiau, meddai National Rock Review, “the music performed was timeless and resonates deeply” ac meddai Elmore Magazine,
“He then went into an absolutely fantastic version of the song [‘Feelin’ Alright’], reminding me yet again that his voice is still great and, man, can he play guitar.”

Wrth sôn am ddod yn ei ôl i wledydd Prydain ar y daith yma, meddai Dave Mason, “ I‘m really looking forward to playing in Britain again after all this time. It’s where it all started for me.  I’ve been doing ‘Traffic Jam’ in North America for like 3-1/2 years now.  I didn’t plan for this show to go that long but it did.  It was great and it was fun and now I want to play it for my fellow Brits.”