Caro Emerald

  • Rhaid i blant dan 14 oed fod gydag oedolyn
 

Yn dilyn adolygiadau pum seren a sioeau dan eu sang ym mhobman, mae Caro Emerald, yn ysblennydd ac yn steilus, yn ôl ar daith fyw newydd sbon danlli grai yng ngwledydd Prydain yn 2018. 

Ers rhyddhau’r albwm début lluos-blatinwm o’r flwyddyn 2010, ‘Deleted Scenes From The Cutting Room Floor’, gwnaeth Caro Emerald a’r cynhyrchwyr Grandmono eu cilfach eu hunain, yn cydasio jazz retro â samplo a pop modern, yn serennu môr o lais Caro. Naws heb ei hail sy’n deillio ohono.

Aeth yr ail albwm, ‘The Shocking Miss Emerald’, i Siart Albymau Swyddogol gwledydd Prydain ym mis Mai 2013 ac aros yn y siart am flwyddyn gron. A chanddi fwy na dwy filiwn a hanner o werthiannau recordiau er ei chlod, llu o wobrau (gan gynnwys Echo, Goldene Kamera, Gwobr Edison, Gwobrau EBBA ac MTV Music), a rhesiad o deithiau a pherfformiadau dan eu sang drwy hyd a lled Ewrop gan gynnwys Ynys Wydrin ac Ynys Wyth, mae Caro wedi gadael ei hôl. Yn ddiweddar rhyddhaodd Caro fideo swyddogol ‘The Ghost Of You’ a godwyd o’r EP Emerald Island diweddar ynghyd ag Illusionista remix of ‘The Ghost Of You’.

Seren pop wreiddiol yw’r canwr ac arni olwg un o eiconau Hollywood ers talwm a llais sy’n byrlymu gan gynhesrwydd a bywiogrwydd. Mae ei pherfformiad byw’n rhy da i’w golli.

 
Pris Safonol £27 | £39.50 | £51.50

Mae Pecyn VIP yn cynnwys:
-
Profiad Caro Emerald VIP Agosatoch
- Tocyn i sedd o’r pris uchaf yn yr wyth rhes flaen
- Anrheg taith VIP argraffiad cyfyngedig
- Bag Caro Emerald i VIP yn unig
- Poster coffa’r daith wedi’i lofnodi ymlaen llaw gan Caro Emerald
- Cofrodd laminedig VIP taith Caro Emerald
 

£101
Defnyddwyr cadair olwyn ac un cydymaith  £27

A ffi bostio opsiynol o £1 i docynnau gael eu postio.

 
Bwciwch Nawr