Beth Hart

Dyma Beth Hart, y canwr, y cyfansoddwr caneuon a'r cerddor o Americanes a enwebwyd am wobr Grammy, yn dod â’i llais roc melangan i’r Neuadd, yn perfformio ei cherddoriaeth roc eneidfawr ac arni naws jazz a chanu’r felan, yn angerddol, yn ymroddedig, yn smala ac yn raslon.

Pan fydd Beth Hart yn canu, mae clociau’n stopio, calonnau’n dawnsio a’r blew bach yn codi ar eich gwar. A phan fydd yn adrodd ei stori reid colli cylla, mewn araflais Glannau’r Gorllewin sy’n ddigon i ddistyllu wisgi hanner canllath draw, mae’r un mor gymhellol.

Daethai Beth i oed yn sŵn cerddoriaeth rownd y rîl ond nid taith ramantus mohoni i’r fan lle mae’n awr, a phob darn garw ar hyd y ffordd yn gwneud ei stori a’i cherddoriaeth yn fwy gwefreiddiol fyth. Meddai Beth, ‘There was definitely difficult stuff, but there was incredible stuff as well. I wouldn’t change any of it, because you bring your experiences to the music.’

Ym mis Hydref 2016, rhyddhaodd Beth ei halbwm stiwdio presennol Fire on the Floor a gafodd groeso brwd gan y beirniaid, a pherfformio taith yng ngwledydd Prydain a werthodd bob tocyn ac a ganmolwyd i’r cymylau mewn adolygiadau, felly cofiwch godi’ch tocynnau’n fuan rhag cael eich siomi.

Llun gan: Paul Sabine

 
Pris Safonol £37 | £41.50

A ffi bostio opsiynol o £1 i docynnau gael eu postio.

 
Bwciwch Nawr
 

"Her personal struggles have defined her and her music and the end result is an assured performer who connects totally with her crowd and her pain has given her an enviable oeuvre that she never fails to deliver with passion, commitment, humour and grace." Bristol24/7

“With every album and tour she seems to go from strength to strength. Beth Hart is one of the truly great singer-songwriters of our time, a genre-defying powerhouse vocalist.” – National Rock Review

 “There are singers, there are good singers - and then there is Beth Hart. The Bridgewater Hall was the latest in a series of sold out venues around the UK to experience the power, passion and purity of this extraordinary artist.” – Lancashire Telegraph

“The personal anecdotes that introduced each solo performance made songs such as the already poignant 'Mama This One's For You' and the simple but elegant 'No Place Like Home' all the more emotive and all the more powerful.” – Fabrications