R17

Mae 2017 yn nodi canmlwyddiant y Chwyldro Rwsieg. Mae sefydliadau celfyddydol ar draws Cymru yn llunio tymor o berfformiadau a digwyddiadau sydd yn dal y ffrwydrad cymdeithasol a diwylliannol y cyfnod, a chysylltiadau hanesyddol Cymru gyda Rwsia ar yr pryd.

Mae “Rwsia 17” - y tymor R17 - yn adlewyrchiad diwylliannol ar ganmlwyddiant y Chwyldro yn Rwsia drwy lygaid Cymru, ac yn digwydd mewn nifer o leoliadau amrywiol megis Canolfan Mileniwm Cymru, Amgueddfa Genedlaethol Cymru a Neuadd Dewi Sant.

Pam Cymru? Mae cyseiniant hanesyddol cryf rhwng y chwyldro a thraddodiadau radical Cymoedd De Cymru. Cafodd gysylltiadau eu meithrin ar unwaith gyda'r Undeb Sofietaidd eginol: llythyrau a anfonwyd gan Lenin ei hun i lowyr y cymoedd a sylfeini y Blaid Gomiwnyddol gyntaf y DU a sefydlwyd yn y Cymoedd. Roedd Maerdy yn un lle oedd wedi ei ail-enwi yn "Little Moscow", y faner goch yn hedfan dros ben y pyllau, a magwyd y cydymdeimladau sosialaidd yn yr ardal nifer o undebwyr llafur Comiwnyddol pwysig. Mae haneswyr wedi nodi sut y dathlwyd y chwyldro Rwsieg yn unigryw yng Nghymru - a sut y teimlwyd ei ddylanwad am flynyddoedd yn ddiweddarach.

I gael rhagor o wybodaeth am raglen R17, cliciwch yma.

I gael rhagor o wybodaeth am berfformiadau a digwyddiadau ledled Cymru, ewch i www.r17.cymru

Gwrandwch yma ar Sioe Gelfyddydau Radio Wales am bopeth i wneud â R17; cyfweliad byw ag Andrew Miller, Cynhyrchydd Gweithredol R17 a ddarlledwyd ddydd Mercher 13 Medi.

 

Cerddorfa Symffoni Coleg Brenhinol Cymru
Dydd Sul 19 Tachwedd, 3pm

Mwynhewch gyngerdd hyfryd gan Gerddorfa Symffoni Coleg Brenhinol Cymru wrth iddynt berfformio gwaith gan Prokofiev, Mussorgsky a Stravinsky.


 

Cerddorfa WNO
Cyfres o Gyngherddau Rhyngwladol

Dydd Iau 23 Tachwedd, 7.30pm

Cerddorfa Opera Cenedlaethol Cymru yn cyflwyno Mahler a Shostakovich: cylch o ganeuon cerddorfaol gyda symffoni brygowthlyd yn dwyn atgofion am Leningrad yn ystod y rhyfel.

 

 

Cerddorfa Symffoni Prifysgol Caerdydd
‘Rwsia: Tsar a Sofiet’
Dydd Mawrth 26 Tachwedd, 3pm

Mwynhewch gyngerdd hyfryd gan Gerddorfa Symffoni Prifysgol Caerdydd wrth iddynt berfformio gwaith gan Shostakovich, Prokofiev a Tchaikovsky.







Tachwedd 2017
M T W T F S S
 

Ymuno â'r rhestr bostio