Prom Cymru 2018

Ar fynd o 21 tan 28 Gorffennaf, mae Proms Cymru 2018 yn cynnwys cymanfa syfrdanol o berfformiadau gan y Royal Philharmonic Orchestra, Bournemouth Symphony Orchestra, Cerddorfa Opera Cenedlaethol Cymru a llond gwlad at hynny.

O ffefrynnau bythol megis y Strafagansa Glasurol! a feginir gan y 1812 a’r Proms Pres a Lleisiau hyd at ein noson gwbl newydd o’r Pictiwrs a’r Dramâu Cerdd sy’n rhoi llwyfan i John Owen Jones y seren theatr gerdd
sy’n enwog drwy’r byd yn grwn, The Armed Man aruthrol Syr Karl Jenkins, ac at hynny wrth gwrs Noson Olaf Proms Cymru ddirfawr, ddigymar, sydd eleni’n cynnwys y gyn-delynores Frenhinol ‘Y Ferch â’r Delyn Aur’ Claire Jones.

Mae yma hefyd y Prom Tidli, Proms y Teulu, yr Organ, a’r Prom Gwerin a Jazz i edrych ymlaen atynt felly’n ddi-os mae yna rywbeth i bawb yn Proms Cymru 2018.
 

Mehefin 2018
M T W T F S S
 

Ymuno â'r rhestr bostio