Only Men Aloud

Beth gwell ar ddechrau’r tymor Nadoligaidd nag Only Men Aloud, fydd yn ôl yn Neuadd Dewi Sant am eu cyngerdd Nadolig blynyddol. 

Ers mwy na 15 mlynedd, mae Only Men Aloud wedi swyno cynulleidfaoedd ym mhob cwr o’r byd ac maen nhw wedi rhoi anadl einioes i'r traddodiad Cymreig o gorau meibion.  Yn yr amser hwnnw maen nhw wedi mwynhau profiadau anhygoel fel ennill cystadleuaeth Last Choir Standing y BBC yn 2008 a Gwobr BRIT Clasurol  Albwm y Flwyddyn am Band of Brothers yn 2010. 

At hynny, maen nhw wedi perfformio mewn digwyddiadau chwaraeon enfawr fel Ffeinal Cynghrair y Pencampwyr, y Gemau Olympaidd, Cwpan Ryder a Chyfres y Lludw. Ers 2008, maen nhw wedi bod ar daith bob blwyddyn ac mae eu ffigurau gwerthu'n fwy na 300,000 erbyn hyn. 

Yn Neuadd Gyngerdd Genedlaethol Cymru, byddwch yn barod am ganu godidog, ffraethineb nodweddiadol a rhwysg cerddorol.  Mae eu sioe bob amser gyda'r mwyaf poblogaidd dros y Dolig, ac ni fydd eleni’n eithriad - paratowch am ddetholiad destlus o ffefrynnau’r ŵyl, emynau Cymreig traddodiadol a chlasuron y byd pop!

 
Pris Safonol £29.00

A ffi bostio opsiynol o £1 i docynnau gael eu postio.

 
Bwciwch Nawr