Let's Hang On

“Dyna i chi stori… Dyna i chi sioe… OH WHAT A NIGHT” 

LET’S HANG ON – Teyrnged gynta’r Byd i gerddoriaeth Frankie Valli & The Four Seasons, a’r un sydd ar fynd hwyaf, yn dathlu deng mlynedd ar y brig! 

Gewch chi wybod sut y bu i bedwar o “hogia’r ochor bella” yn New Jersey fathu eu sain eu hunain a gwerthu dros 175 miliwn o recordiau cyn iddyn nhw droi’r deg ar hugain! 

Mae’r cynhyrchiad Theatr yma sy’n fawr ei glod gan y beirniaid yn mynd â chi ar daith gerddorol drwy yrfa doreithiog ‘Preswylwyr Oriel Enwogion Roc a Rôl’ sy’n dal i fod yn un o’r bandiau mwyaf llwyddiannus yn hanes pop, Frankie Valli & The Four Seasons. 

Dyma berfformio’n gyflawn eich holl hoff hits a thraciau sain ffilmiau o gatalog yn ymestyn dros hanner can mlynedd, megis Grease, Stay (Dirty Dancing), December 1963 (Oh What a Night!), Sherry, Beggin’, Can’t Take My Eyes Off You, Working My Way Back To You, Walk Like A Man, Big Girls Don’t Cry, a llawer at hynny, ac yn olaf yn codi’r to â swae o ddiweddglo Let’s Hang On!

Gewch chi ddisgwyl cael eich llorio gan y perfformiadau lleisiol syfrdanol a’r ddawn gerddorol eithriadol sy’n cynnwys adran gyrn anhygoel. Does dim dwywaith nad ydi’r chwip o sioe ddengmlwyddiant yma yn noson y byddai’n edifar gennych ei cholli! Felly dewch i’r parti a CHODI TOCYNNAU NAWR!

 
 Pris Safonol  £26 - all areas
 Grwpiau o 10 neu’n fwy (Ffoniwch y Swyddfa Docynnau ar 029 2087 8443)  £1.50 oddi wrth bob tocyn

A ffi bostio opsiynol o £1 i docynnau gael eu postio.

 
Bwciwch Nawr