Gretchen Peters

  • Lolfa Lefel 3
 

Ers ugain mlynedd mae Gretchen Peters yn un o artistiaid Nashville sydd fwyaf hoff a mwya’i pharch. "If Peters never delivers another tune as achingly beautiful as 'On A Bus To St. Cloud,'" meddai People Magazine, "she has already earned herself a spot among country's upper echelon of contemporary composers.” Ym mis Hydref 2014 fe’i cyflwynwyd i Oriel Enwogion Cyfansoddwyr Caneuon Nashville gan y canwr a’r cyfansoddwr caneuon Rodney Crowell, a’i galwodd yn gyfansoddwr caneuon ac yn fardd sy’n canu mor hyfryd ag y mae’n cyfansoddi a dweud am ei chân “The Matador”, "[it] moved me so greatly, I cried from the soles of my feet” a daeth clod i ran Peters yn gyfansoddwr caneuon i artistiaid mor amrywiol ag Etta James, Bonnie Raitt, The Neville Brothers, Patty Loveless, George Strait, Bryan Adams a Faith Hill.  Aeth ei halbwm o’r flwyddyn 2015, ‘Blackbirds’, yn syth i #1 yn siart Canu Gwlad a Gwerin gwledydd Prydain ac yn siart pop 40 uchaf gwledydd Prydain, a dyfarnwyd iddo Albwm Rhyngwladol y Flwyddyn a Chân y Flwyddyn. Yn 2015, rhoes The Telegraph hi ymhlith trigain canwr a chyfansoddwr caneuon benywaidd mwya’r oesoedd. Rhyddheir ei halbwm newydd, sydd heb eto’i enwi, ym mis Mai.

 
Pris Safonol  £24 Ymlaen llaw | £25 Ar y diwrnod
 Cyfeillion Neuadd Dewi Sant | Dros 60 | Myfyrwyr | Hawlwyr | Pobl anabl ag un cydymaith  £2 oddi wrth bob tocyn
 Aelodau REACT (16 oed – 25 oed) 
(cliciwch yma i gael gwybod sut i ymuno) 
 £10
 Grwpiau o 10 neu’n fwy (Ffoniwch y Swyddfa Docynnau ar  029 2087 8443)  £1 oddi wrth bob tocyn

 A ffi bostio opsiynol o £1 i docynnau gael eu postio.

 
Bwciwch Nawr