Gino's Italian Escape yn Fyw

Yn syth ar ôl pedwaredd gyfres ysgubol o lwyddiannus Gino’s Italian Escape ar ITV, mae Gino D’Acampo yn mynd â’i awch a’i ddawn coginio’r Eidal at gynulleidfaoedd byw'r gwanwyn nesaf.

Mae ei sioe lwyfan fyw’n addo resipis nodweddiadol o bob cwr o’i Eidal annwyl, wedi’u cyd-asio â hiwmor sionc Gino, lle i’r gynulleidfa gymryd rhan a llond gwlad o bethau annisgwyl ar hyd y ffordd.Mae Gino, brodor balch, llawn hwyl, o Napoli, yn un o’r personoliaethau mwyaf poblogaidd yn ei faes; ochr yn ochr ag ymddangos yn rheolaidd ar This Morning, mae’n cyflwyno'r rhaglen ysgubol o lwyddiannus Gino’s Italian Escape a rhyddhaodd sawl llyfr a werthodd fel slecs gan gynnwys Fantastico!, The Italian Diet ac A Taste of the Sun.

Yn ei sioe fyw bydd yn dangos sut i goginio rhai o’i hoff seigiau o’i gyfres boblogaidd ‘Italian Escape’ – a does dim dau na fydd yn gwahodd aelodau lwcus o’r gynulleidfa i ddod ato ar lwyfan i gael profiad agosatoch bythgofiadwy.

Wrth sôn am y daith, meddai Gino: “I am very excited and can’t wait to get out there and share some fantastic food and cooking tips from my home country. It’s going to be Gino – Live and unleashed!”

Bydd selogion Gino yn siŵr o gael na does dim maddau i’r sioe fyw a bod arni flas myw - run fath yn union â seigiau’r Eidalwr sosi!

Cofiwch fod yn sioe yma efallai’n cynnwys iaith oedolion ac nad ydi’n addas i blant bach

 
Pris Safonol £27.50

 

Yn ogystal â Thâl Gwasanaeth Tocynnau o £3.95 fesul trafodyn a ffi postio dewisol o £1.00 ar gyfer postio tocynnau.  Gwybodaeth llawn am Dâl Gwasanaeth Tocynnau cliciwch yma

 

 
Bwciwch Nawr