Sinfonia Cymru

Ricky Gore, Ffidil
Bryony Gibson Cornish, Fiola
Steffan Morris, Soddgrwth
Amy Roberts, Obo

Rhaglen:

 Mozart   Pedwarawd Obo    15' 
 Britten  Metamorphoses after Ovid for solo 
    Pan
    Arethusa
 2'22''
 2'45'' 
 Bach  Three Part Inventions (trefn. i Driawd Tannau) 
 32'


Dewch at ensemble o’r gerddorfa siambr arobryn Sinfonia Cymru i bnawn o gerddoriaeth gan Mozart, Britten a Bach. Ym 1951 y cafodd Six Metamorphoses After Ovid Op 49 Britten ei première ac ym mhob symudiad mae’n disgrifio cymeriad gwahanol o fytholeg Rufeinig – yma mae Sinfonia Cymru yn cyflwyno’r symudiadau sy’n darlunio Pan ac Arethusa. Pedwarawd Mozart i’r obo pencampwriaethol a Three Part Inventions Bach, a sgrifennwyd yn wreiddiol yn wersi i’w fyfyrwyr, sy’n cwblhau’r rhaglen hyfryd yma.

 

Cyrraedd y Neuadd mewn pryd i’r perfformiad un o’r gloch a thalu be deimlwch chi sy’n addas.

 
 
13.00 DECHRAU                                                                   
14.00 DIWEDD

 NODER: Amseroedd bras - gallant newid.