Sarah Baldock, Organ

 J S Bach 

 Preliwd, Largo a Ffiwg yn C BWV 545            

 Maurice Duruflé 

 Sicilienne               o Gyfres Op 5    

 Frank Martin

 Passacaglia (1944)

 Felix Mendelssohn 

 Sonata ym meddalnod B Op 65 Rhif 4

 

 i)   Allegro con brio
 ii)  Andante religioso
 iii) Allegretto
 iv) Allegro maestoso

 

Mae Sarah Baldock yn dysgu ac yn Organydd y Coleg yn Cheltenham Ladies’ College. Rhwng 2008 a 2014 roedd yn Organydd ac yn Feistr y Côr-gantorion yn Eglwys Gadeiriol Chichester, a chyn Chichester roedd yn Gyfarwyddwr Cynorthwyol Cerddoriaeth yn Eglwys Gadeiriol Caer-wynt.

Mae Sarah yn mwynhau cydweithio ag artistiaid eraill. Rhoes première HengeMusic David Owen Norris i bedwarawd sacsoffon a’r organ a chychwyn menter gyda’r artist Sophie Hacker wedi’i seilio ar La Nativité Messiaen a arweinodd at lyfr o’r enw Icons of the Incarnation, ac arddangosfa a deithiodd wledydd Prydain.

Ar y cyd â Digwyddiadau Organ Caerdydd. 

 

Cyrraedd y Neuadd mewn pryd i’r perfformiad un o’r gloch a thalu be deimlwch chi sy’n addas.

 
 
13.00 DECHRAU                                                                   
14.00 DIWEDD

 NODER: Amseroedd bras - gallant newid.