Cyngerdd Ysgolion Grand Band

Bydd chwe Phiano Cyngerdd, chwe phianydd, chwe sgrin a dau biano chwarae bach yn llenwi llwyfan Neuadd Dewi Sant yn y sioe biano awr ysblennydd yma i ysgolion cynradd. Yn syth o Ddinas Efrog Newydd, bydd chwe phianydd GRAND BAND yn rhoi tro am Gymru am y tro cyntaf ac yn perfformio cerddoriaeth o’r darn cyfareddol “6 pianos” gan y cyfansoddwr bythol-boblogaidd Steve Reich hyd at gerddoriaeth wallgof afieithus yr oes sydd ohoni gan yr Americanwr ifanc, Ben Wallace, y mae ei gerddoriaeth “A Road you Can Go” yn ailgymysgu alawon o Ryddfraint Mario Kart Nintendo.

Cyflwynir y cyngerdd difyr ac addysgol yma gan y cyfansoddwr, yr actores a’r animateur, Helen Woods a bydd yn wledd i’r llygad a’r glust i bawb sy’n dod.

Cyflwynir y cyngerdd yma ar y cyd gan Neuadd Dewi Sant a Gŵyl Bro Morgannwg.

 
Pris Safonol £3.00 y plentyn
Athrawon AM DDIM

 

I godi tocynnau, rhowch ganiad i’r Swyddfa Docynnau ar 02920 878444.

 
 
10.30 DECHRAU
11.30 DIWEDD                                                              

NODER: Amseroedd bras - gallant newid.