Prom Organ: Seinio’r Utgorn

Disgrifiwyd Crispian Steele-Perkins yn ‘bennaf berfformiwr y byd yr utgorn Baróc’ ac mae’n dod â’i ddull difyrru di-ail ei hun i’r Proms yn y cyngerdd yma i’r utgorn a’r organ. Ynghyd â’i gasgliad o offerynnau hanesyddol mae Crispian yn mynd â chynulleidfaoedd yn eu holau i fyd aur yr utgorn mewn cerddoriaeth gan Handel, Haydn, Mozart a Stanley.

Rhoddodd y brodor o Awstralia, yr organydd Anne Page, gyngherddau lawer gyda Crispian ledled gwledydd Prydain ac fe’i cydnabyddir drwy’r gwledydd yn unawdydd organ. Mae’n chwarae Preliwd a Ffiwg llawen Bach yn G lon i lawenychu organ Neuadd Dewi Sant.

Ar y cyd â Digwyddiadau Organ Caerdydd

 

 
Pris Safonol £8.00
Friends of St David's Hall | Plant dan 16 oed | Myfyrwyr | Hawlwyr |
Dros 60 | Pobl anabl ag un cydymaith
£2.00 yn llai

 
Bwciwch Nawr