The Hallé

Cyngerdd Rhif 2
(yn y pecyn tanysgrifiad)

 

 Arweinydd  Sir Mark Elder  
 Unawdydd  Sergio Castello-Lopez, Clarinet  
 Ravel  Rapsodie Espagnole  16' 
 Debussy  Rhapsody No 1 for Clarinet and Orchestra    8'
 Ravel  Bolero  16'
 Mussorgsky   Pictures at an Exhibition (orch. Ravel)  33'


Mwynhewch gyda'r Hallé
Maes tras Sbaeneg-Basgeg Ravel i’w glywed yn glir yn y darn ecsotig, Rapsodie Espagnole ac yn ei ddarn
cerddorfaol Bolero, gwaith a oedd i fod i gael ei berfformio’n wreiddiol gan gwmni bale Ida Rubinstein ym 1928. Darn prawf Conservatoire ar gyfer y clarinet oedd Rhapsody yn y lle cyntaf, tra bod Pictures at an Exhibition gan Mussorgsky, a oedd yn wreiddiol ar gyfer unawdydd piano, yn cael ei weddnewid gan drefniant ardderchog Ravel i’r ffurf yr ydym yn ei hadnabod heddiw.

                                    

 
Pris Safonol £10.00 | £15.50 | £20.00 | £27.50 | £34.00 | £41.00
Plant dan 16 oed 
(Os bydd tocynnau ar gael)
PLANT YN MYND AM DDIM
Yng nghwmni pob oedolyn sy’n talu’r pris llawn, mae un plentyn yn mynd am ddim –ceir codi tocynnau i blant eraill am £5.00 yr un. Cynigir y tocynnau a bwrw’u bod ar gael.
Tocyn Platinwm 
Yn cynnwys sedd orau yn Lefel 1, gwydr o Prosecco a rhaglen. Cofiwch fod hyn yn gymwys ar y tocynnau drutaf yn unig.
£49.50
Cyfeillion Neuadd Dewi Sant | Hawlwyr £2.00 oddi ar docyn pris llawn
Myfyrwyr (hyd at hanner awr wedi chwech ar ddiwrnod y perfformiad.)  Rhaid dangos cerdyn adnabod myfyriwr wrth gasglu tocynnau. £5.00
Pobl anabl ag un cydymaith Hanner pris pob tocyn
Defnyddwyr cadair olwyn ac un cydymaith  gyda’r tocyn rhataf £10.00 pob tocyn

A ffi bostio opsiynol o £1 i docynnau gael eu postio.

*Noder, nid yw consesiynau ar gael ar docynnau platinwm neu ragarweiniol. 
**Dim ond un gostyngiad ar gyfer pob tocyn. Rhaid dangos prawf o’r hawl wrth gasglu’r tocyn.

 
Bwciwch Nawr
 

PECYN CYNGHERDDAU

Manteision Prynu Pecyn:

  • Gallwch arbed hyd at 20% ar eich tocynnau ac, o’u prynu nhw’n awr, fe gewch
    chi dalu dros chwe mis (yn ddi-log), gan wneud i’ch arian fynd ymhellach
  • Y dewis cyntaf o seddi i holl gyngherddau eleni
  • Cerdyn Disgownt Tanysgrifiwr
  • Prynu tocynnau ychwanegol nawr, neu’n nes at yr adeg, i’ch ffrindiau a’ch
    teulu, am eich pris disgownt tanysgrifio
  • Prynu eich rhaglenni ymlaen llaw a chael disgownt –£3.00 ymlaen llaw,
    £3.50 ar y diwrnod.

Manteision Prynu Tocynnau I’r Holl Gyngherddau:

  • Gwahoddiad i’n parti ni ar noson agoriadol y tymor
  • Cerdyn disgownt sy’n rhoi gostyngiad o 10% ar frechdanau, cacenni a diodydd poeth yn Bar L3
  • Blwyddyn gyfan o gyngherddau gwych i edrych ymlaen atynt!
Nifer y Cyngherddau 10
Gostyngiad 5%  5%  10%  10%  15%  15%  20% 


Archebwch drwy’r Swyddfa Docynnau ar 02920 878444

ARCHEBION GRWPIAU
Grwpiau o 10 neu fwy: £1.50 oddi ar docyn pris llawn.
Grwpiau o 20 neu fwy: £2.50 oddi ar docyn pris llawn.
Cysylltwch a’r Swyddfa Docynnau ar ein llinell archebion grwpiau, rhif ffon: 029 2087 8443. Neuadd Dewi Sant, Yr Aes Caerdydd CF10 1AH.

TOCYN CYFLWYNO: £10.00
Mae Neuadd Dewi Sant wedi ymrwymo i hyrwyddo cerddoriaeth gerddorfaol a chlasurol i gynulleidfa mor eang a phosibl. Felly os nad ydych chi’n siŵr a yw cyngerdd cerddoriaeth glasurol at eich dant chi, neu eich bod am brofi cerddoriaeth gerddorfaol ardderchog am y tro cyntaf, prynwch docyn am £10.00 –bargen! Pwy a wˆyr, efallai wnewch chi fwynhau!

DEWCH I GLYWED CERDDORIAETH FYW AM £5.00...
Rhwng 16 a 25 oed? Gallech fwynhau’r cyngherddau hyn am £5.00 yn unig. Does rhaid i chi ond ymuno â’n clwb cerddoriaeth a drama i bobol ifanc 16-25 oed. Mae gan bob cyngerdd hyn a hyn o seddi am y pris. I ymuno, e-bostiwch ni yn artsactive@caerdydd.gov.uk

Ein CCR: Ychwanegion yn cynnig cyfle i gynulleidfaoedd fanteisio i’r eithaf o’u hymweliad â Neuadd Dewi Sant. Dyma sydd ar gael yn y gyngerdd hon?

Y Gyfres Cyngherddau Rhyngwladol: Cyn Perfformiad

Dr Keith Chapin (Prifysgol Caerdydd)
Dydd Mercher, 1 Tachwedd, 6.30pm, Lefel 1
(DIGWYDDIAD AM DDIM )

Y Gyfres Cyngherddau Rhyngwladol: Cyngherddau Bach
Mae’r Gyfres Cyngherddau Rhyngwladol: Tameidiau yn cynnig hanner awr o gerddoriaeth siambr am ddim i chi, i ychwanegu at ein Cyfres Cyngherddau Rhyngwladol yn Neuadd Dewi Sant ac i’w rhoi yn ei chyd-destun. Rydym wrth ein boddau o groesawu cymanfa o’n hoff gerddorion lleol i stiwdio Lefel Un, i glywed cerddoriaeth dros ben sy’n chwilio prif themâu’r tymor yma. Bydd pob Tamaid yn cynnwys trafodaeth gerddorol ysgafnfryd, yn ogystal â pherfformiadau cerddorol graenus. 

Yn dod i fyny...

Dydd Sadwrn, 2 Rhagfyr, 11am, Lefel 1
Nadolig Clasurol Iawn

Elizabeth French (ffidil) 
Nicola Rose (piano)
Korngold:  Hwyrgan o Der Schneemann
Vivaldi: Largo o Winter 
Ellen Williams (soprano)
Nicola Rose (piano)
Adam: O Holy Night
Handel:  Messiah (pigion)

Mae tocynnau o holl ddigwyddiadau’r Gyfres Cyngherddau Rhyngwladol: Tameidiau yn rhad ac am ddim – does rhaid ond picio i’n stiwdio Lefel 1 yn Neuadd Dewi Sant. 

Mae rhagor o wybodaeth am raglen ein Cyfres Cyngherddau Rhyngwladol ac ‘ychwanegion’ ynghlwm â hi (gan gynnwys sgyrsiau cyn perfformiadau) i’w chael yn http://www.stdavidshallcardiff.co.uk/whats-on/international-concert-series-2017-18/

Ar gyfer rhaglen lawn ICS: Soundbites, cliciwch yma

Y Gyfres Cyngherddau Rhyngwladol: Tameidiau i ddod...

Dydd Sadwrn 27 Ionawr, 11am, Lefel 1
Bach Mwy
Rep ac artistiaid i'w cadarnhau

 Tapas yn Lolfa L3