St Petersburg Symphony Orchestra

Cyngerdd Rhif 1
(yn y pecyn tanysgrifiad)
 

 Arweinydd  Alexander Dmitriev  
 Unawdydd  John Lill, Piano  
 Mussorgsky  A Night on the Bare Mountain   12' 
 Tchaikovsky   Concerto Piano Rhif 2  37' 
 Tchaikovsky  Symffoni Rhif 4  42'


YR HOLL FFORDD O RWSIA…
Caiff gwrachod gwyllt ar Noson Gŵyl Ifan eu dwyn i gof yn wych yn y darn dieflig A Night on the Bare Mountain gan Mussorgsky. Mae Concerto Piano Rhif 2 ardderchog Tchaikovsky, nad yw’n cael ei berfformio’n aml iawn, yn dyner ac eto’n derfysglyd, ac mae’n cynnwys un o’r symudiadau telynegol mwyaf hudol y repertoire concerto. 

                              

 
Pris Safonol £10.00 | £15.50 | £20.00 | £27.50 | £34.00 | £41.00
Plant dan 16 oed 
(Os bydd tocynnau ar gael.)
PLANT YN MYND AM DDIM
Yng nghwmni pob oedolyn sy’n talu’r pris llawn, mae un plentyn yn mynd am ddim –ceir codi tocynnau i blant eraill am £5.00 yr un. Cynigir y tocynnau a bwrw’u bod ar gael.
Tocyn Platinwm 
Yn cynnwys sedd orau yn Lefel 1, gwydr o champagne a rhaglen. Cofiwch fod hyn yn gymwys ar y tocynnau drutaf yn unig.
£49.50
Cyfeillion Neuadd Dewi Sant Hawlwyr £2.00 oddi ar docyn pris llawn
Myfyrwyr (hyd at hanner awr wedi chwech ar ddiwrnod y perfformiad.)  Rhaid dangos cerdyn adnabod myfyriwr wrth gasglu tocynnau. £5.00
Pobl anabl ag un cydymaith Hanner pris pob tocyn
Defnyddwyr cadair olwyn ac un cydymaith  gyda’r tocyn rhataf £10.00 pob tocyn

*Noder, nid yw consesiynau ar gael ar docynnau platinwm neu ragarweiniol. 
**Dim ond un gostyngiad ar gyfer pob tocyn. Rhaid dangos prawf o’r hawl wrth gasglu’r tocyn.

 
Bwciwch Nawr
 

PECYN CYNGHERDDAU

Manteision Prynu Pecyn:

  • Gallwch arbed hyd at 20% ar eich tocynnau ac, o’u prynu nhw’n awr, fe gewch
    chi dalu dros chwe mis (yn ddi-log), gan wneud i’ch arian fynd ymhellach
  • Y dewis cyntaf o seddi i holl gyngherddau eleni
  • Cerdyn Disgownt Tanysgrifiwr
  • Prynu tocynnau ychwanegol nawr, neu’n nes at yr adeg, i’ch ffrindiau a’ch
    teulu, am eich pris disgownt tanysgrifio
  • Prynu eich rhaglenni ymlaen llaw a chael disgownt –£3.00 ymlaen llaw,
    £3.50 ar y diwrnod.

Manteision Prynu Tocynnau I’r Holl Gyngherddau:

  • Gwahoddiad i’n parti ni ar noson agoriadol y tymor
  • Dau gyngerdd awr ginio am ddim o’ch dewis
  • Cerdyn disgownt sy’n rhoi gostyngiad o 10% ar frechdanau, cacenni a
    diodydd poeth yn Art Cafe Celf a Bar L3
  • Blwyddyn gyfan o gyngherddau gwych i edrych ymlaen atynt!
Nifer y Cyngherddau 10
Gostyngiad 5%  5%  10%  10%  15%  15%  20% 


Archebwch drwy’r Swyddfa Docynnau ar 02920 878444

ARCHEBION GRWPIAU
Cynnig cynnar – archebu a thalu cyn 2 Medi
Grwpiau o 10 neu fwy: £3 oddi ar docyn pris llawn, £1.50 ar ôl y dyddiad hwn
Grwpiau o 20 neu fwy: £4 oddi ar docyn pris llawn, £2.50 ar ôl y dyddiad hwn

Cysylltwch a’r Swyddfa Docynnau ar ein llinell archebion grwpiau, rhif ffon: 029 2087 8443. Neuadd Dewi Sant, Yr Aes Caerdydd CF10 1AH.

TOCYN CYFLWYNO: £10.00
Mae Neuadd Dewi Sant wedi ymrwymo i hyrwyddo cerddoriaeth gerddorfaol a chlasurol i gynulleidfa mor eang a phosibl. Felly os nad ydych chi’n siŵr a yw cyngerdd cerddoriaeth glasurol at eich dant chi, neu eich bod am brofi cerddoriaeth gerddorfaol ardderchog am y tro cyntaf, prynwch docyn am £10.00 –bargen! Pwy a wˆyr, efallai wnewch chi fwynhau!

DEWCH I GLYWED CERDDORIAETH FYW AM £5.00...
Rhwng 16 a 25 oed? Gallech fwynhau’r cyngherddau hyn am £5.00 yn unig. Does rhaid i chi ond ymuno â’n clwb cerddoriaeth a drama i bobol ifanc 16-25 oed. Mae gan bob cyngerdd hyn a hyn o seddi am y pris. I ymuno, e-bostiwch ni yn artsactive@caerdydd.gov.uk